Arolwg cymwysterau CBAC TGAU gwyddoniaeth ar wahân (TGAU Bioleg, TGAU Cemeg, TGAU Ffiseg)

Cefndir

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ar 16 Medi 2025 y bydd yn ymgynghori ymhellach ynghylch ystod y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth yn 2028. Yn y cyfamser, bydd y TGAU presennol ym mhynciau bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael, hyd at ganlyniad yr ymgynghoriad yn 2028.

Mae angen i CBAC benderfynu felly a fyddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r TGAU presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg, ac os felly, sut newidiadau fyddan nhw. I lywio ein penderfyniad, mae angen i ni ddeall sut mae rhanddeiliaid yn teimlo am unrhyw newidiadau.

Nodwyd pedwar opsiwn gennym ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu isod. Nid ydym wedi cynnwys yr opsiwn i gyflwyno newidiadau i bob uned yn y TGAU bioleg, cemeg a ffiseg ar gyfer mis Medi 2026, gan na fyddai'n bosibl gwneud y newidiadau hynny mewn da bryd. Nid ydym ychwaith wedi cynnwys yr opsiwn i ohirio cyflwyno'r holl gymwysterau TGAU gwyddorau tan fis Medi 2027 gan fod CC wedi cadarnhau yn ei gyhoeddiad y bydd y TGAU gwyddorau newydd yn parhau i fod ar waith o fis Medi 2026 yn ôl y bwriad.

Darllenwch bob dewis ac atebwch y cwestiynau ynghylch i ba raddau rydych chi’n cefnogi pob dewis, o ystyried yr effaith ar ganolfannau a dysgwyr.

Yn ychwanegol i’r arolwg hwn, byddwn ni’n cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid. Byddwn ni’n cyhoeddi ein penderfyniad yn ddiweddarach y tymor hwn.

*cymwysterau TGAU gwyddorau ar wahân = TGAU Bioleg, TGAU Cemeg, TGAU Ffiseg presennol