Yn unol â'r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun Cyfarthfa (2020), mae Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar hyn o bryd yn cychwyn ar brosiect cyffrous i ailddychmygu ac ailddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa. Yn y cam cyn datblygu hwn o'r prosiect, maen nhw’n datblygu cynlluniau cam wrth gam ac achos busnes cysylltiedig er mwyn cyflwyno’r achos dros yr angen am arian angenrheidiol.

I ategu ymgynghoriad blaenorol â’r cyhoedd, hoffem ofyn am eich barn i’n helpu i lunio a datblygu Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ar gyfer ein hymwelwyr.

Llenwch yr holiadur hwn a rhowch eich adborth i ni - p'un a ydych chi'n ymwelydd rheolaidd, neu erioed wedi bod o'r blaen, rydyn ni eisiau gwybod eich barn. Bydd yn cymryd tua 10 munud i'w lenwi.

I ddiolch am eich amser, bydd gan bob un sy’n cymryd rhan gyfle i gystadlu mewn cystadleuaeth i ennill Cerdyn Rhodd We Love Merthyr gwerth £50.

Mae'r ymchwil hon yn cael ei gynnal ar ran Sefydliad Cyfarthfa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn ddienw ac yn gyfrinachol ac ni fydd eich data yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd partïon eraill.

T