Arolwg Praesept SCHTh 2025 ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2026-27

Mae copi papur o'r arolwg hwn ar gael. Cysylltwch â schth@heddlugogleddcymru.police.uk am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd ateb yr arolwg hwn mewn fformat Darllen Hawdd trwy glicio yma.

Mae cadw Gogledd Cymru yn le diogel i weithio, byw ac ymweld ag yn flaenoriaeth i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru. Mae eich barn yn bwysig wrth gynorthwyo'r Comisiynydd benderfynu ar gyllideb 2025/26, yn enwedig os dylai'r praesept gynyddu. Mae'r praesept yn rhan o Dreth y Cyngor sy'n talu am Blismona yn eich ardal.

Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i hysbysu fy nhrafodaethau gyda'r Prif Gwnstabl wrth gytuno ar y praesept gyda Phanel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cyflwynwch eich ymateb erbyn hanner nos ar 19 Rhagfyr 2025.
1.Ydych chi'n talu'r Dreth Gyngor neu Ardrethi Busnes?
2.1.Rhaid i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyflwyno cyllideb gytbwys dros gyfnod y ⁠Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP) sef yr enw a roddir ar y cynllun cyllideb rydym yn gweithio iddo.

Ar sail ein tybiaethau ar hyn o bryd o ran grant llywodraeth, mae angen cynnydd o £21.50 yn y dreth gyngor er mwyn creu cyllideb ddigyfnewid mewn termau real. Fodd bynnag, mae'r CHTh yn ymwybodol o bwysau presennol ar gyllidebau cartref. Hoffent wybod pa lefel o gynnydd yn y dreth gyngor y byddech yn ei gefnogi.

Mae'r opsiynau canlynol yn rhoi syniad o'r hyn y mae codiadau gwahanol yn y dreth gyngor yn golygu i'r gyllideb blismona. Dangoswch y lefel cynnydd yn y dreth gyngor y buasech yn ei dewis ar gyfer 2026/27.

Gall yr union swm Praesept sy'n cael ei osod newid yn ôl lefel y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Bydd y cyllid hwn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn ond nid yw ar gael ar adeg llunio'r arolwg hwn."

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r CHTh osod cyllideb gytbwys. Byddai dim cynnydd o gwbl yn golygu bod angen toriadau sylweddol. O'r opsiynau isod beth fyddech chi'n ei ddewis fel cynnydd derbyniol yn y Praesept?
3.1.Pe byddai’r Dreth Gyngor yn cynyddu 48c yr wythnos, byddai hyn yn rhoi cyllid am welliannau ychwanegol i'r gwasanaeth. Pa un o'r meysydd canlynol ymhlith tair blaenoriaeth gyffredinol allweddol y CHTh ar gyfer plismona ydych chi'n meddwl y dylid blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad os cytunir ar gynnydd yn y Praesept?

Dewiswch hyd at 6 opsiwn o'r rhestr lawn isod.
4.Faint fyddech yn cytuno neu anghytuno bod yr Heddlu yn eich cymuned yn delio â'r pethau sy'n bwysig yn yr ardal?
5.Faint fyddech yn cytuno neu anghytuno bod gennych hyder yn yr Heddlu yn eich cymuned?
6.Faint fyddech yn cytuno neu anghytuno bod gellir dibynnu ar yr heddlu yn eich cymuned i fod yno pan fydd eu hangen arnoch?
7.A oes gennych unrhyw sylwadau i wneud ar blismona yn eich cymdogaeth neu eich cymuned? Os felly, ysgrifennwch eich barn yn y blwch isod.
8.Faint oed oeddech chi ar eich pen-blwydd diwethaf?
9.Ym mha sir yr ydych chi'n byw?
10.Beth ydy eich rhyw?
11.Sut wnaethoch chi glywed am yr arolwg hwn?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd fforddio talu eich bil Treth Gyngor, efallai y bydd cymorth ar gael. Cysylltwch hefo'ch awdurdod bilio am fanylion unrhyw ostyngiadau y gallech fod yn gymwys i'w cael, neu er mwyn cael gwybodaeth am eu cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (a all fod hyd at 100% o'ch Treth Gyngor).