Rhannwch beth mae Chapter yn ei olygu i chi

Yn Chapter, rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni adeiladu dyfodol cryf a chynaliadwy. Rydyn ni’n edrych ar sut rydyn ni’n defnyddio’r adeilad, gan gynnwys y Caffi Bar, a’r gwahaniaeth mae ein gwaith yn ei wneud i bobl a chymunedau.
Bydd eich atebion yn ein helpu ni i ddeall beth mae pobl yn ei werthfawrogi am Chapter, beth allai weithio’n well, a beth ddylid ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Bydden ni’n falch iawn o glywed gennych chi, boed chi’n ymwelydd rheolaidd neu heb fod yma ers tro.
Rydyn ni’n gwybod bod rhai ohonoch wedi rhannu eich barn gyda ni o’r blaen, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny’n fawr. Mae’r arolwg yma’n rhan o waith ar wahân, felly bydden ni’n ddiolchgar os gallech chi rannu eich safbwyntiau unwaith eto.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud, neu tua 5 munud os nad ydych chi wedi ymweld yn y flwyddyn ddiwethaf. Does dim atebion cywir nac anghywir; rydyn ni eisiau clywed eich barn onest.
Bydd eich atebion yn ddienw. Ar y diwedd, gallwch ddewis gadael eich manylion cyswllt i glywed beth sy’n digwydd nesaf, i gymryd rhan mewn sgwrs fer ddilynol, neu i gymryd rhan mewn raffl.
Gall pawb sy’n llenwi’r arolwg ac yn rhoi eu manylion cyswllt ymuno â raffl i ennill dau docyn sinema a thaleb gwerth £50 i Gaffi a Bar Chapter.
Diolch am helpu i siapio dyfodol Chapter.
11%