Croeso

Rydym yn defnyddio’r arolwg hwn i ddylanwadu ar gyllid a chymorth ar gyfer sefydliadau di-elw'r DU
Diolch am helpu i adeiladu Adroddiad Sgiliau Charity Digital 2024 , gan Zoe Amar a Nissa Ramsay, gyda chymorth gwych gan Catalyst, Pixeled Eggs a Stopgap.
Mae ein hadnodd wedi’i rannu a'i ddefnyddio'n eang i i lywio gwaith cyllido a chymorth. Rydyn ni’n credu y dylai fod yn gynhwysol a helpu sefydliadau fel eich un chi i benderfynu sut ydych chi am symud ymlaen. Gallwch ddarllen adroddiad 2023 yma.

Am yr arolwg
  • Mae’r arolwg yn agored tan ganol nos, nos Wener 26 Ebrill 2024
  • Byddwn yn lansio fersiwn Cymraeg yn y man
  • Bydd angen 20 munud arnoch, paned o de a bod yn barod i adfyfyrio
  • Gallwch gymryd seibiant (arhoswch ar yr un ddyfais a phorwr i ddychwelyd i’ch ymatebion)
  • Gallwch hepgor unrhyw gwestiynau (does dim un yn orfodol) os nad ydynt yn teimlo’n berthnasol, neu os nad ydych am ateb neu nad ydych chi'n gwybod sut i'w hateb.
  • Mae arolwg wedi ei gynllunio ar gyfer unrhyw sefydliad di-elw yn sector gwirfoddol,elusennol a mentrau cymdeithasol y DU ar unrhyw gam gyda gwaith digidol
  • Bydd rhai cwestiynau yn teimlo yn llai yn berthnasol os ydych yn dod o sefydliad bach iawn heb unrhyw staff cyflogedig (hepgorwch y rhain)
  • Mae yn helpu os ydych chi yn gwybod am waith digidol a chynlluniau yn eich sefydliad. Os nad ydych chi,gallech basio yr arolwg hwn ymlaen, ymgynghori â chydweithwyr neu ei gwblhau fel tîm

Beth rydym yn ei ofyn
Mae ein cwestiynau yn syml ac nid oes angen gwybodaeth dechnegol. Rydym yn gofyn am:
  • Sut rydych chi yn gweld cynnydd digidol , sgiliau blaenoriaethau a heriau yn eich sefydliad
  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar-lein
  • Pa rôl sydd gan offer digidol yn y gwasanaeth a ddarparwch
  • Eich ymagwedd at ddefnyddio offer AI (deallusrwydd artiffisial )
  • Unrhyw gamau rydych yn eu cymryd i leihau eich ôl troed carbon
  • Sut y gallai cyllid a a chymorth eich helpu i symud ymlaen gyda gwaith digidol
  • Prif Swyddog Gweithredol a sgiliau bwrdd digidol
Sut gall yr arolwg eich helpu chi hefyd
Dywedodd cyfranogwyr blaenorol wrthym fod yr arolwg yn helpu i:
  • Gymryd cam yn ôl i feddwl am yr hyn sydd gennych chi a'r hyn y mae ei angen arnoch chi
  • Myfyrio (fel tîm ) ar yr hyn sy'n eich dal yn ôlmewn gwirionedd
  • Tanio syniadau a meddwl am feysydd digidol sy'n newydd i chi ​
  • Cyfrannu eich llais i lywio cyllid a chefnogaeth i'ch rhanbarth a'ch sector
  • Dysgu rhagor am bynciau a chymorth (rydym yn darparu dolenni)
Buddiannaudewisol
Gallwch hefyd ddewis :
  • Derbyn copi PDF o eich ymatebion i'w gadw
  • Enwebu gwaith eich sefydliad i ymddangos ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol
  • Rhoi ein gwobr raffl i ennill un o bum gwobr o £500 (cyllid anghyfyngedig )
 
5% of survey complete.

T