CBAC TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg arolwg Dweud eich dweud! Cyfrannwch eich llais at ddyfodol TGAU Iaith a Llenyddiaeth SaesnegMae pryderon wedi'u mynegi dros y misoedd diwethaf ynghylch llwyth gwaith athrawon mewn perthynas â chyflwyno'r cymwysterau TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd) newydd.Fel corff dyfarnu cyfrifol, rydym wedi cydweithio'n agos â phrif randdeiliaid er mwyn ystyried ffyrdd o wella hydrinedd y cymwysterau hyn. Ar sail hynny, rydym wedi dod i'r casgliad bod angen addasu'n sylweddol.Newid at y dyfodolMae newidiadau arwyddocaol wedi'u hystyried gennym, gan gynnwys dileu asesiadau o unedau, asesiadau llafaredd yn eu plith. I wneud hyn byddai angen newid y Meini Prawf Cymeradwyo a ddatblygwyd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Oherwydd hynny, mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru.Lle bynnag y bo'n bosibl, byddai unrhyw newidiadau a gymeradwyir yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer carfanau Blwyddyn 10 sy'n cychwyn ym mis Medi 2026. Oherwydd bod strwythur y cymhwyster yn hyblyg ac unedol, mae'r gwaith a gyflawnwyd eisoes gan ganolfannau yn amrywio, ac mae llawer o ddysgwyr Blwyddyn 10 wnaeth ddechrau ar y cymhwyster ym mis Medi 2025 wedi cwblhau rhai o'r unedau yn barod. Mae'n bwysig bod graddau o fewn carfan yn gymharol, felly ni allwn gymhwyso'r newidiadau hyn ar gyfer dysgwyr wnaeth gychwyn ar y cymhwyster ym mis Medi 2025.Rhannwch eich barn – ymgynghoriad ar agor yn awr Cyn i ni symud ymlaen ag unrhyw newidiadau, hoffem gael adborth rhanddeiliad ar yr opsiynau rydym yn cynnig eu newid. Caiff unrhyw un sy'n ymateb ei annog yn gryf i adolygu deunyddiau'r ymgynghoriad sydd i'w gweld ar y dudalen nesaf ac i gwblhau'r arolwg erbyn 19 Mehefin 2026.Bwriadwn gyfleu canlyniadau'r ymgynghoriad, a chadarnhau unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt, cyn diwedd tymor yr haf.Newidiadau eraill i'w rhoi ar waith o fis Medi 2026Yn ogystal â'r newidiadau sylweddol y mae'r arolwg hwn yn eu hystyried, nodwyd y newidiadau canlynol a byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2026: Dychwelyd o fod angen tystiolaeth glyweledol orfodol o asesiadau llafaredd i'r trefniant blaenorol o fod angen naill ai tystiolaeth sain neu dystiolaeth glyweledol o asesiadau llafaredd Mewn blynyddoedd lle mae gorgyffwrdd, derbyn briffiau asesiadau di-arholiad sy'n dod i ben a'r rhai sy'n dechrau Egluro bod modd cynnwys athrawon yn aelod o drafodaethau grŵp mewn achosion o absenoliaeth/gofynion arbennig Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â datblygucymwysterau@cbac.co.uk Nesaf