Arolwg trydydd sector

Cyflwyniad

Helo. Ni yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC).

Rydym yn ceisio adborth gan sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru er mwyn deall yn well ymwybyddiaeth o’n rôl a’n pwerau.

Bydd eich ymateb i’r arolwg hwn yn ein helpu i:

  • ddeall pa mor gyfarwydd yw sefydliadau’r trydydd sector â ni
  • nodi lle gallai rhagor o wybodaeth neu ymgysylltu fod yn ddefnyddiol
Rydym yn disgwyl i’r arolwg hwn gymryd tua 5 munud i’w gwblhau.

Rydym yn croesawu ymatebion gan sefydliadau sy’n gweithio mewn unrhyw ran o’r trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi unigolion i godi pryderon neu gwynion am wasanaethau cyhoeddus.

Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn, ac mae unrhyw fanylion cyswllt a roddwch yn ddewisol. Os byddwch yn cytuno, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ddeall eich barn neu’ch awgrymiadau yn fwy manwl.

Diolch am rannu eich profiad a’ch mewnwelediad.

***

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn neu os hoffech ymateb mewn modd gwahanol, cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu:

cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
0300 790 0203 (opsiwn 3)

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau, ewch i'n Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, ewch i'n Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol