Croeso

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd rhwng 5 ac 8 munud i'w gwblhau.

Pam rydyn ni'n casglu data dienw ar lythrennedd hinsawdd?
Nod yr Arolwg Llythrennedd Hinsawdd yw cynnal ymchwil i ddeall lefel llythrennedd hinsawdd (dealltwriaeth o hinsawdd y Ddaear ac effaith cynhesu byd-eang) ymhlith y rhai sy'n gadael addysg uwchradd.
Rydym am olrhain effaith newidiadau i'r cwricwlwm a'r ffordd y caiff newid hinsawdd ei addysgu. Dim ond os ydyn ni’n gwybod gwybodaeth benodol amdanoch chi - myfyrwyr ysgol uwchradd presennol - y gallwn wneud hyn yn effeithiol.

Pwy all gymryd rhan yn yr arolwg?
Myfyrwyr:
- Blwyddyn 11 yn Lloegr, Cymru, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw
- Blwyddyn 12 yng Ngogledd Iwerddon
- S4 yn yr Alban

Sut ydyn ni'n casglu'r data anhysbys hwn, a phwy fydd yn ei weld?
Rydyn ni’n defnyddio SurveyMonkey i gasglu'r wybodaeth hon. Nid oes unrhyw ffordd i adnabod unrhyw ymatebwyr unigol naill ai yn y data o fewn SurveyMonkey nac mewn unrhyw ddadansoddiad a gaiff ei gynnal. Bydd eich data yn cael ei gadw yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998. Fel mesur ychwanegol, ni fyddwn yn adrodd data ar gyfer unrhyw grwpiau sy'n llai na 10 o bobl - gallai hyn olygu bod angen i ni gyfuno categorïau â niferoedd llai lle bo'n briodol, neu gallai olygu na allwn adrodd ar gyfer rhai grwpiau eto.
Bydd y canlyniadau’n cael eu dadansoddi a byddwn yn cyhoeddi trosolwg o’r data ar dudalennau gwe’r Gymdeithas.

Pa wybodaeth ydyn ni'n gofyn i chi ei rhannu'n ddienw â ni?
Rydyn ni’n gofyn i chi ateb 4 cwestiwn amdanoch chi eich hun a 2 am yr ysgol rydych chi'n ei mynychu. Gallwch ofyn am help gan eich athro/athrawes ynglŷn â chwestiynau’r ysgol.
Bydd pob un o'r 10 cwestiwn ar ôl hynny yn gwestiynau sy'n ymwneud â'r hinsawdd. Ni chewch adborth o'ch arolwg, nac ychwaith wybod beth yw'r atebion cywir neu anghywir, felly atebwch yn onest. Dylech wneud y rhain ar eich pen eich hun a heb gyfeirio at unrhyw ffynonellau ar-lein na ffynonellau eraill. Ni fydd eich athro/athrawes yn cael gwybod a gawsoch chi'r atebion yn gywir neu'n anghywir chwaith.

Drwy barhau â'r arolwg hwn rydych yn cytuno i RMetS ddefnyddio unrhyw wybodaeth a rowch fel sydd wedi’i ddisgrifio uchod.

T