Arolwg Seren 2025/26

Pa mor fodlon ydych chi?

Dyma’ch cyfle i wneud i bethau newid…

Bob yn ail flwyddyn, rhaid i bob darparwr tai cymdeithasol gasglu data fel y gall y llywodraeth weld sut rydym yn gwneud. Rydym yn cael ein cymharu â phob darparwr tai cymdeithasol arall yng Nghymru a byddwch chi'n gallu gweld sut rydym yn perfformio – bydd y canlyniadau ar gael ar-lein yn 2026.


Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn a chofiwch achub ar y cyfle ar y diwedd i ennill gwobr o £100.

Os hoffech gael yr adroddiad hwn mewn unrhyw fformat neu iaith arall, mae croeso i chi gysylltu ag ateb.
Bydd yr arolwg hwn ar agor tan 30/01/26.
1.Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan ateb?
2.Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae ateb yn delio ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw?
3.Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?
4.Pa mor fodlon neu anfodlon yr ydych bod ateb yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu ar ei sail?
5.Gan ystyried eich cartref chi’n benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy’n ddiogel?
6.Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi â’r modd y mae eich landlord cymdeithasol yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
7.Pa mor fodlon neu anfodlon yr ydych â’r cyfleoedd a gewch i gymryd rhan ym mhrosesau ateb ar gyfer gwneud penderfyniadau?
8.I ba raddau yr ydych yn fodlon neu’n anfodlon bod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle i chi fynegi barn am y modd y mae gwasanaethau’n cael eu rheoli?
9.I ba raddau rydych yn cytuno â’r datganiad canlynol - "Rwy’n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"?
10.I wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan ystod eang o’n cwsmeriaid, nodwch i ba gategori oedran yr ydych yn perthyn (Dewisol):

(Efallai y bydd yn ofynnol i ateb rannu’r data hwn â Llywodraeth Cymru yn rhan o’i safonau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Drwy nodi eich ethnigrwydd yma, rydych yn cytuno i roi caniatâd i ateb rannu’r data hwn â Llywodraeth Cymru.):
11.Os aelod o staff sy’n cynnal yr arolwg hwn, nodwch enw’r aelod o staff yma. Os na, gadewch hwn yn wag:
12.Os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chael cyfle i ennill talebau ar-lein gwerth £100, nodwch eich enw, eich cyfeiriad ebost a’ch rhif ffôn yma: (Dim ond at ddibenion y gystadleuaeth y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon a/neu er mwyn ceisio datrys unrhyw broblemau sydd wedi’u dwyn i’n sylw drwy’r arolwg hwn, a bydd y wybodaeth yn cael ei dinistrio cyn pen 4 mis). Byddwn yn cysylltu â’r enillydd yn ystod wythnos 16/03/26.
CANLYNIADAU: Os hoffech weld canfyddiadau’r arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu sesiwn ar-lein ein Grŵp Cynllunio Arolygon rhwng 10:00 ac 11:00 ar 10 Mawrth 2026. Mae croeso i chi gysylltu ag Ali Evans: 01437 774766 / 07500 446611 / engage@atebgroup.co.uk i gael dolen i'r grŵp hwn, neu i gael fersiwn arall o'r canlyniadau.

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan erbyn mis Mai 2026, ar dudalen Newyddion a Digwyddiadau.

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB



Current Progress,
0 of 12 answered