Diolch am ymweld â Gŵyl Grefft Cymru, a rhoi o'ch amser i gwblhau'r arolwg byr hwn ynglŷn â'ch profiad yn yr Ŵyl. Rydym wedi ei gadw mor syml â phosibl, a dylai gymryd mymryn dros 10 munud i'w gwblhau. Gallwch wneud hyn ar eich ffôn, llechen neu liniadur, pa un bynnag sydd hawsaf i chi.
Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni a bydd yn ein helpu i barhau i wella'r ŵyl yn y dyfodol.
I ddiolch i chi am lenwi'r arolwg hwn, gallwch roi cynnig ar raffl i ennill arhosiad 2 noswaith (Chwefror 5-7 2027) i 2 berson yn y Queen's Apartment yn Aberteifi trwy garedigrwydd ein ffrindiau Tŷ Annie Holidays*. Am gyfle i ennill, anfonwch eich atebion erbyn hanner nos ddydd Sul 4 Hydref 2026.
Trefnir yr arolwg hwn gan ein partner gwerthuso, yr hyb. Mae pob ymateb unigol yn ddienw, a byddwn yn defnyddio eich adborth i lunio gwerthusiad cyffredinol o'r ŵyl yn unig. Rydym yn addo na fyddwn yn rhannu unrhyw ddata personol a roddwch i ni gyda thrydydd partïon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r ymchwil, neu os hoffech weld neu ofyn am ddileu eich data, anfonwch e-bost at hello@craftfestival.co.uk
Diolch eto!
Tîm Gŵyl Grefft Cymru
* Telerau ac Amodau
Mae mynediad i'r raffl yn gyfyngedig i un cais cyflawn dilys gan bob person. Y wobr yw arhosiad 2 Noswaith (Chwefror 5-7 2027) i 2 Berson gyda Tŷ Annie Holidays yn y Queen's Apartment yn Aberteifi. Rhaid adbrynu'r wobr erbyn Ionawr 8fed, 2027. Nid oes gwerth ariannol i'r wobr ac nid yw'n drosglwyddadwy. Hysbysir yr enillydd erbyn 31 Hydref 2026 drwy’r manylion cyswllt a roddwyd. Bydd y manylion cyswllt a roddwyd yn cael eu defnyddio i weinyddu'r wobr, neu ar gyfer y rhestr bostio, pa un bynnag sy'n berthnasol. Ni rennir y data llawn y tu allan i'r hyb a thimau Gŵyl Grefft Cymru.