Detholwch MODD DARLLENYDD SGRIN i wneud yr arolwg hwn yn gydnaws â darllenyddion sgrin.
Arolwg o fwriadau ffermwyr cig eidion a defaid ar gyfer eu busnesau yng Nghymru, 2025
Mae chwyddiant a chostau mewnbwn fferm uchel yn parhau i herio'r sector amaethyddol yn sylweddol, gan effeithio ar broffidioldeb a chymhlethu gwneud penderfyniadau i ffermwyr Cymru. Er mwyn deall y materion hyn yn well, cynhaliodd Hybu Cig Cymru (HCC) arolwg o fusnesau ffermio Cymru ym mis Medi 2022, 2023, a 2024. Mae HCC bellach yn gwahodd ffermwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn pedwerydd arolwg i asesu heriau presennol a chynlluniau busnes y dyfodol, gan helpu i lywio trafodaethau yn y dyfodol.
Mae eich barn chi yn hanfodol ar gyfer yr ymchwil hwn. Drwy gwblhau’r arolwg 10-munud hwn, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn raffl am ddim gyda chyfle i ennill taleb cig gwerth £50.
Mae manylion am sut y bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei thrin i'w gweld yn yr Hysbysiad Preifatrwydd.