Arolwg y Tenant Wrecsam 2012

Croeso i’n Arolwg Adborth y Tenant.

I ateb gofynion ein cwsmeriaid mae angen i ni wybod beth rydych yn ei hoffi orau am ein gwasanaeth, unrhyw broblemau sydd gennych efallai a sut yr hoffech i’r gwasanaeth wella.

Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw trwy ofyn i CHI, a dyma’r rheswm arall yr ydym yn ceisio cynyddu’r nifer o drigolion sy’n cyfranogi. Rydym yn gwybod nad ydy pawb yn gallu gwirfoddoli eu hamser gwerthfawr felly rydym eisiau datblygu DEWIS o opsiynau yn cynnig gwahanol ffyrdd o gyfranogi, yn amrywio o ymrwymo ychydig bach o amser “Byrbryd” i lawer mwy o gyfranogaeth - “Pryd tri chwrs”.

Mae gan yr holiadur yma 7 adran fer ac mae llai na chant o gwestiynau i gyd felly dylai gymryd tua 10 munud i chi ei gwblhau a byddwn yn rhoi’r holl arolygon cyflawn mewn 2 gystadleuaeth tynnu enw o het (gwobr gyntaf - Ipad ac ail wobr – Kindle). Byddwn yn tynnu’r enwau o het mewn Cyfarfod o Gynulliad y Tenantiaid ac yn cyhoeddi’r enwau yn y newyddlen Trafodion Tai ac hefyd ar ein gwefan.

Dyma’r adrannau:
1. Amdanoch Chi – Eich Manylion Cysylltu ac Anghenion
Cyfathrebu
2. Diwygio Lles
3. Cyfranogaeth y Tenant
4. Boddhad am Wasanaethau’r Landlord
5. Prosiect Gosod Panel Ffotofoltaïg Solar (PV)
6. Cydraddoldeb a Thegwch

T