Mae’r Clwb Llyfrau yn un o gynlluniau Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ymysg plant, ac mae taflen dymhorol y Clwb, sy’n cael ei dosbarthu i ysgolion cynradd yng Nghymru, yn cynnig dewis deniadol o lyfrau. Hoffem glywed eich barn am ddarpariaeth y Clwb, a thrwy gymryd yr amser i lenwi’r holiadur byr hwn, cewch gyfle i ennill tocyn llyfr gwerth £10 – ac mae pum tocyn ar gael. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau’r holiadur a’i ddychwelyd atom ni, ynghyd â chyfeiriad e-bost dilys. Byddem yn hoffi clywed gan gynifer o bobl ag y bo modd, felly mae croeso i chi rannu’r ddolen hon ag aelodau’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
The Clwb Llyfrau is one of the Welsh Books Council’s projects designed to promote reading amongst children, and its Books for your Children leaflet, distributed to primary schools in Wales each term, offers an attractive selection of books. We would love to hear your opinions on the service provided by the Clwb Llyfrau, and by taking part in this survey, you have the chance to win a £10 book token – and there are five tokens on offer. All you have to do is complete the survey and return it to us, along with a valid email address. Please share this link with as many of your family members, friends and colleagues as you wish.