Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Plant yng Nghymru wedi cynnal cyfarfodydd a sesiynau preswyl gyda gofalwyr ifanc gan ofyn beth mae arnyn nhw ei angen i wneud eu rôl ofalu yn haws. Arweiniodd hyn at ffilm fer a thaflen (http://www.childreninwales.org.uk/areasofwork/youngcarers/dvdandleaflet/index.html)

Un o’r pethau mwyaf cyffredin a ddwedodd gofalwyr ifanc wrthyn ni yw y byddai cardiau adnabod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi gofyn i Plant yng Nghymru edrych ar y potensial am gardiau adnabod yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn brysur yn cynnal gweithdai gyda grwpiau gofalwyr ifanc ac yn siarad â gweithwyr hefyd. Rydym ni hefyd wedi sefydlu’r ymgynghoriad hwn er mwyn i’r holl ofalwyr ifanc yng Nghymru allu rhoi eu syniadau i ni.

• Os ydych chi WEDI cael cerdyn adnabod gofalwr ifanc rydym ni eisiau clywed am sut rydych chi wedi ei ddefnyddio, ydy e’n gweithio’n dda a sut allai gael ei wella.
• Os NAD YDYCH chi wedi cael cerdyn adnabod hoffem ni glywed sut yn eich barn chi y byddai’n eich helpu ac unrhyw bryderon sydd gennych chi.

Sylwch fod pob ymateb yn gyfrinachol ac ni chaiff enwau eu defnyddio. Cysylltwch ag Ed Janes (Ed.Janes@childreninwales.org.uk) os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch chi angen help.

T