Ceir deng cwestiwn a dylai gymryd deng munud i chwarter awr i’w gwblhau.

Diolch am gymryd yr amser i gwblhau’r ffurflen hon ar gyfer Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Gofynnwyd i chi gwblhau’r arolwg byr hwn oherwydd eich bod yn ymwneud â sefydliad sy’n gweithio ar faterion menywod yng Nghymru mewn rhyw ffordd.

Nod yr archwiliad cynhwysfawr hwn yw nodi a chasglu gwybodaeth ynghylch grwpiau a rhwydweithiau menywod yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Bydd y gronfa ddata hon yn caniatáu i RhCM Cymru wasanaethu’r sector menywod yn well oherwydd y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i hwyluso a chydlynu cyfathrebu ar draws y sector yn well; cyfeirio unigolion a sefydliadau at wasanaethau ac adnoddau; hysbysu Llywodraeth Cymru o’r gwaith sy’n digwydd ledled Cymru; a, ceisio gwella gwaith partneriaeth yn y sector.

Question Title

* 1. Manylion Cyswllt

Question Title

* 2. Beth byddech chi’n ei ddweud yw prif ddiben eich sefydliad/grŵp? Er enghraifft, beth yw eich nodau ac amcanion allweddol?

Question Title

* 3. Fel y gallwn eich cydweddu â phartneriaid a ffrydiau ariannu posib, rhaid i ni gael gwybod ym mha ardaloedd yr Awdurdod Lleol rydych yn gweithio ynddynt. Dewiswch yr ardaloedd perthnasol o’r opsiynau isod:

Question Title

* 5. Credwn fod rhannu llwyddiant yn ffordd wych i ysbrydoli sefydliadau a grwpiau eraill. Os oes gennych brosiect neu astudiaeth achos rydych yn arbennig o falch ohono, amlinellwch hynny neu atodwch ddolen i wefan fel y gallwn gael cipolwg.

Question Title

* 6. Rydym yn dwlu ar flogiau a rhannu straeon - a fyddai diddordeb gennych mewn ysgrifennu blog ar gyfer RhCM Cymru yn y dyfodol?

Question Title

* 7. Hoffem glywed am y darnau o waith cyffrous rydych yn eu cynllunio neu rydych yn bwriadu ymwneud â hwy dros y blynyddoedd nesaf. Os gallwch rannu hyn â ni, efallai y byddwn yn adnabod pobl sy’n gallu helpu neu bobl sy’n cynllunio darnau o waith tebyg a byddwn yn eich cysylltu â hwy.

Question Title

* 8. Credwn mai gwaith partneriaeth a chydweithio sy’n allweddol i brosiectau llwyddiannus. Os ydych wedi gweithio gyda nhw o’r blaen ai peidio, beth yw’r 3 phrif sefydliad yr hoffech weithio gyda hwy yn y dyfodol?

Question Title

* 9. Hoffem wybod y meysydd rydych yn ystyried eich bod yn arbenigo ynddynt, neu feysydd yr hoffech ennill mwy o brofiad a gwybodaeth ynddynt. Bydd hyn yn ein galluogi i’ch cydweddu â phartneriaid a chyfleoedd.

  Rwyf yn arbennig o brofiadol yn y maes hwn Hoffwn dderbyn mwy o wybodaeth am y pwnc hwn
Cynyddu nifer y menywod mewn rolau gwneud penderfyniadau
Dod i ben â thrais yn erbyn menywod o bob cefndir
Sicrhau cyfle cyfartal i fenywod a merched ym mhob agwedd ar fywyd; yn arbennig tai a chyflogaeth
Cefnogi anghenion menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu a/neu y tybir mai nhw yw’r gofalwyr yn awtomatig
Mynd i’r afael â’r tueddfryd dinesig sy’n effeithio’n negyddol ar brofiad menywod a merched mewn ardaloedd gwledig
Herio agweddau negyddol ynghylch anghydraddoldeb rhyw a thueddfryd anymwybodol tuag at ddynion a bechgyn gan ddynion a menywod
Annog a chefnogi gwelededd modelau rôl benywaidd ym mhob agwedd ar fywyd Cymru
Mynd i’r afael ag effaith rhyw’r diwygiad lles, tlodi ac anghydraddoldeb cyflogau/pensiynau
Herio gor-rywioli menywod a merched yn y cyfryngau, ar-lein ac mewn hysbysebion
Gweithio tuag at ymagwedd well i ddedfrydu cyfreithiol, trefniadau cystodaeth a chefnogaeth amddiffyn i fenywod a merched

Question Title

* 10. Oes gennych unrhyw sylwadau eraill, cyngor, cwestiynau neu bryderon yr hoffech eu trafod ni? Hoffem glywed eich adborth:

Deddf Diogelu Data 1998. Caiff y wybodaeth a roddir ei bwydo a’i chadw’n electronaidd gan WEN Cymru; bydd copïau papur o bob ffurflen a data cyswllt hefyd yn cael eu cadw. Defnyddir y wybodaeth gan WEN Cymru ar gyfer gweinyddu’r cyfeiriadur; ac ar gyfer monitro a hyrwyddo’r sector menywod yng Nghymru. O bryd i’w gilydd, efallai y danfonwn wybodaeth atoch allai fod o ddiddordeb ichi. Cedwir cysylltiadau personol a data ariannol yn ddiogel a chyfrinachol. Trwy lenwi’r arolwg hwn rydych yn cytuno y gallwn gadw a defnyddio’r data ar gyfer y dibenion hynny.

T