Yr Hen Lyfrgell |
Yn yr Hydref bydd Yr Hen Lyfrgell - canolfan Gymraeg Caerdydd, yn agor yn yr Aes. Y nod yw creu canolfan groesawgar yng nghalon ein prifddinas sy’n dathlu, hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg fel iaith fyw ar gyfer holl ddinasyddion Caerdydd a’i hymwelwyr. Bydd amrywiaeth o weithgareddau a darpariaeth i ddenu pobl o bob oed a chefndir drwy’r drysau yn Gymry Cymraeg, dysgwyr a theuluoedd di-Gymraeg.
I sicrhau ein bod ni’n cynnig y ddarpariaeth gywir mae’n hollbwysig i glywed barn pobl Caerdydd, a thu hwnt, am yr hyn hoffech chi ei weld yn y Ganolfan. Mae’r holiadur hwn yn fodd o gasglu barn a gwybodaeth fydd yn ein helpu wrth gynllunio camau cyntaf y ganolfan. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.