Arolwg Perygl Llifogydd – gwerthfawrogwn eich sylwadau chi

Mae gan Wrecsam lawer o afonydd, ffrydiau a chyrsiau dŵr, a dan amodau eithafol gallai hyn arwain at berygl llifogydd. Serch hynny, y pergyl mwyaf i eiddo yn y Bwrdeistref yw llifogydd dŵr arwyneb a achosir gan effaith glawiad difrifol a phatrymau tywydd na ellir eu rhagfynegi a gysylltir â newid yn yr hinsawdd.

Mae’r arolwg yma ar gael ar wefan y Cyngor ac yn cael ei anfon yn uniongyrchol at drigolion a busnesau mewn ardaloedd lle cafwyd llifogydd yn y gorffennol neu a allai fod mewn perygl llifogydd yn y dyfodol. Y nod yw ceisio adnabod yr hyn sy’n achosi’r perygl llifogydd i’w heiddo a deall yr effaith mae llifogydd yn ei gael ar bobl, tir ac eiddo. Gall hwn fod yn niwed emosiynol neu economaidd. Defnyddir canlyniadau’r arolwg hwn i hysbysu’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

Byddem yn ddiolchgar iawn petaech chi’n ateb ychydig o gwestiynau am eich eiddo chi a pha wybodaeth neu wasanaethau a fyddai’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Bydd yr adnoddau i reoli perygl llifogydd yn gyfyngedig bob amser, ac er y bydd canlyniadau’r arolwg yn cynyddu ein gwybodaeth am berygl llifogydd yn y Bwrdeistref, mae’n bosibl na fydd yn arwain at unrhyw waith penodol a fydd yn lleihau’r perygl.

1.Cyfeiriad yr eiddo, busnes neu ardal
2.Beth yw eich manylion cyswllt chi?(Required.)
3.A ydych chi’n berchennog yr adeilad hwn neu’n gyfrifol am gynnal a chadw’r adeilad ar hyn o bryd?
4.A yw llifogydd wedi effeithio ar yr eiddo hwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf
5.Os ‘Do’, nodwch y mannau a effeithiwyd gan y llifogydd
6.Pa un o’r ffynonellau isod sy’n cyfrannu at lifogydd yn eich ardal chi, yn eich barn chi?
7.Pa mor ymwybodol ydych chi’n am y perygl llifogydd lle rydych chi’n byw?
8.Pa mor bryderus ydych chi am newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r perygl llifogydd?
9.Beth sy’n eich pryderu fwyaf o ran rheoli perygl llifogydd?
Gosodwch mewn trefn pwysigrwydd, os gwelwch yn dda, lle 1 yw’r pwysicaf a 8 yw’r lleiaf pwysig.
1
2
3
4
5
6
7
8
Cyllid ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd
Datblygiadau newydd yn effeithio ar lifogydd
Newid yn yr hinsawdd a chynnydd mewn glawiad
Cynnal a chadw cyrsiau dŵr
Medru sicrhau yswiriant adeiladau a chynnwys eiddo
Yr effaith ar werthoedd eiddo lleol
Cynllunio ar gyfer argyfwng ac ymateb i argyfwng
Rheoli tir gwledig
10.Beth ddylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i bartneriaid fod yn ei wneud i reoli’r risg llifogydd yn y sir?
11.O ran buddsoddi mewn cynlluniau atal rhag llifogydd, a ydych chi’n credu y dylai Cyngor Wrecsam fod yn:
12.A oes potensial i’r grwpiau a ganlyn gyfrannu tuag at gostau cynlluniau atal rhag llifogydd.
Ticiwch bob un sy’n berthnasol.
13.Pwy ddylem ni ymgynghori â nhw wrth i ni ddatblygu’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, yn eich barn chi?
14.A oeddech chi’n sylweddoli mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol?
1 / 3
33%