Mae'r arolwg hwn yn rhan o brosiect dan arweiniad pobl ifanc i ddylanwadu ar blismona ledled Cymru a Lloegr. Fe'i dyluniwyd gan bobl ifanc o Banel Ieuenctid Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Mae eich barn chi fel person ifanc yn bwysig iawn i ni a bydd yn cael ei defnyddio i lunio argymhellion ar gyfer newid. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg yn 2026.
Mae'r arolwg yn gwbl anhysbys ac ni fydd gofyn i chi am eich enw, eich gwybodaeth gyswllt nac unrhyw wybodaeth a fyddai'n datgelu pwy ydych chi. Caiff ei reoli gan Leaders Unlocked. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd (yn Saesneg) yma.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 5-6 munud i'w gwblhau, yn dibynnu ar faint sydd gennych i'w ddweud.
