Cyflwyniad
Yn OGCC, rydym yn cofleidio'r Gymraeg. Mae ein gwasanaethau a gwybodaeth am ein gwasanaethau ar gael yn Gymraeg. Fodd bynnag, ychydig o bobl sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion. Rydym am ddeall pa rwystrau all atal pobl rhag ymgysylltu â ni yn Gymraeg. Os ydych yn siaradwr Cymraeg ar unrhyw lefel o allu ac rydych wedi defnyddio ein gwasanaeth cwynion yn ystod y 3 blynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Cliciwch yma i ddod o hyd i'n Hysbysiad Preifatrwydd sy'n esbonio sut y byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch wedi nodi diddordeb mewn cyfrannu at un o'n hymgynghoriadau, arolygon neu wedi mynychu un o'n digwyddiadau.
