Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cerdded yn un o'r ffyrdd gorau o ddechrau'r diwrnod. Ond nid yw cerdded neu olwyno i'r ysgol bob amser mor hawdd ag y dylai fod. Mae Living Streets, yr elusen ar gyfer cerdded-bob-dydd, eisiau clywed am eich profiad o deithio i'r ysgol, fel y gallwn weithio gydag ysgolion, cynghorau lleol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wella'r llwybrau i'r ysgol. Rydym eisiau i deuluoedd fel eich un chi gerdded ac olwyno i'r ysgol yn hapus ac yn ddiogel.
Gofynnwn i chi gwblhau ein hymgynghoriad/arolwg byr i ddweud wrthym am eich profiadau – boed dda neu ddrwg. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun o'r gwelliannau sydd eu hangen. Dim ond ychydig eiliadau o'ch amser y bydd hyn yn ei gymryd.
Bydd enwau pawb sy'n llenwi ein harolwg yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill taleb siopa gwerth £200, y gallech ddewis ei gwario ar esgidiau neu ddillad tywydd gwlyb, fel y gallwch gerdded beth bynnag fo'r tywydd.
Gweler y telerau a'r amodau yma.