Deall rôl bresennol a rôl y dyfodol cymwysterau Troseddeg

Dywedwch wrthym beth mae Troseddeg yn ei olygu i chi ac i'ch dysgwyr

Mae cymwysterau ôl-16 yn cael eu diwygio yn Lloegr*. Oherwydd hynny, rydyn ni'n awyddus i gasglu safbwyntiau darparwyr ar draws yr holl ardaloedd daearyddol i helpu i lunio sut y byddwn ni'n ymdrin â maes Troseddeg yn y dyfodol a sicrhau bod y cymhwyster yn parhau i fod yn cynnig gwerth i ddysgwyr a chanolfannau.
Casgliadau'r arolwg hwn fydd yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch adolygu a pharhau â'r cymhwyster.
I ddiolch i chi am gymryd rhan, bydd canolfannau sydd wedi ymateb yn derbyn crynodeb o'r casgliadau, gan gynnwys canlyniadau ar ffurf grynswth a sylwadau dienw.
Diolch i chi am gymryd yr amser i gymryd rhan a sicrhau eich bod wedi'ch cynrychioli yn y trafodaethau pwysig hyn.
*Noder*, mae'r diwygiadau ôl-16 yn berthnasol i ddarparwyr a dysgwyr yn Lloegr yn unig.
I gael mwy o fanylion am yr arolwg hwn a'r hysbysiad preifatrwydd llawn:
  • Os yw eich canolfan yng Nghymru ewch i CBAC/WJEC
  • Os yw eich canolfan yn Lloegr ewch i WJEC/Eduqas
Cyfranogiad(Required.)
A yw eich canolfan wedi'i lleoli yn Lloegr neu yng Nghymru?(Required.)
A gawn ni gysylltu â chi am unrhyw weithgareddau ymchwil dilynol mewn perthynas â'r cymhwyster hwn, er enghraifft arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws neu ddarpar astudiaethau achos? Ni chysylltir hyn â'ch ymateb i'r arolwg wrth ddadansoddi:
Ni chysylltir hyn â'ch ymateb i'r arolwg wrth ddadansoddi.