Disability Wales is gathering feedback from our DPO and individual members to ensure our consultation response reflects your voices.

A plain text version of this survey is available by emailing natalie.jarvis@disabilitywales.org. If you would like support completing the survey or have any other questions please get in touch.

Mae Anabledd Cymru yn casglu adborth gan ein sefydliadau pobl anabl (DPO) ac aelodau unigol i sicrhau bod ein hymateb i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu eich lleisiau.
Mae fersiwn testun plaen o’r arolwg hwn ar gael drwy anfon e-bost at natalie.jarvis@disabilitywales.org. Os hoffech gymorth i gwblhau’r arolwg neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni.

Question Title

* 1. Which of the following best describes you?
Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio orau?

Question Title

* 2. “The Welsh Government is committed to promoting the rights of disabled people, and to ensure disabled people are included and able to participate in all communities in Wales. We want to make Wales an inclusive and accessible place for disabled people; a society where disabled people can participate without limits or restrictions and are empowered to lead fulfilling lives, where their individual and collective rights are recognised and upheld and where their contribution is recognised.”

Please tell us what you think about this proposed ambition. Is this the right ambition to improve equality for disabled people in Wales? What, if anything, could be added to or removed from this ambition?

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau pobl anabl, ac i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys ac yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru’n lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb ffiniau na chyfyngiadau ac mae ganddynt y grym i arwain bywydau boddhaus, lle mae eu hawliau unigol a chydweithredol yn cael eu cydnabod a’u gwarchod, ac mae eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi.”

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr uchelgais arfaethedig hon. Ai dyma’r uchelgais gywir i wella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru? Beth, os o gwbl, y gellid ei ychwanegu at neu ei dynnu o’r uchelgais hon?

Question Title

* 3. The Disabled People’s Rights Plan is split into 4 themes:

1. Neighbourhoods and Places
2. Employment, Income, and Education
3. Independent Living
4. Justice and Supporting Environments

Please tell us whether you think these themes are suitable for the plan. Do these themes cover the main issues or barriers that disabled people experience? Are there any missing areas that should be added to these themes? If yes, what are they?

Mae’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi’i rannu’n 4 thema:

1. Cymdogaethau a Lleoedd
2. Cyflogaeth, Incwm ac Addysg
3. Byw’n Annibynnol
4. Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol

Rhowch wybod i ni a ydych yn credu bod y themâu hyn yn addas ar gyfer y cynllun. A yw’r themâu hyn yn ymdrin â’r prif faterion neu’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu profi?
A oes unrhyw feysydd coll y dylid eu hychwanegu at y themâu hyn? Os oes, beth ydyn nhw?

Question Title

* 4. The plan sets out the following main topics

- Embedding and understanding of the Social Model of Disability
- Access to services
- independent living: social care
- independent living: health
- travel
- employment and income
- affordable and accessible housing
- children and young people
- access to justice
- wellbeing

Do these topics cover the main issues or barriers that disabled people experience? Are there any missing areas that should be added to these themes? If yes, what are they?

Mae’r cynllun yn nodi’r prif bynciau canlynol:

- Sefydlu a deall Model Cymdeithasol Anabledd
- Mynediad at wasanaethau
- Byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- Byw’n annibynnol: iechyd
- Teithio
- Cyflogaeth ac incwm
- Tai fforddiadwy a hygyrch
- Plant a phobl ifanc
- Mynediad at gyfiawnder
- Llesiant

A yw’r pynciau hyn yn ymdrin â’r prif faterion neu’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu profi? A oes unrhyw feysydd coll y dylid eu hychwanegu at y themâu hyn? Os oes, beth ydyn nhw?

Question Title

* 5. The ‘actions document’ sets out the short-term steps being taken now, with the expectation that future governments will introduce further actions to achieve the long-term outcomes.

Do you think these current short-term actions are enough to help achieve the long-term goals?

What do you think of the short-term goals?
What do you think of the long-term goals?

Are there any actions or goals (short-term or long-term) that you think are missing?

Mae’r ‘ddogfen gweithredu’ yn nodi’r camau byr-dymor sy’n cael eu cymryd nawr, gyda’r disgwyliad y bydd llywodraethau’r dyfodol yn cyflwyno camau pellach i gyflawni’r canlyniadau hirdymor.

Ydych chi’n credu bod y camau byr-dymor presennol hyn yn ddigon i helpu i gyflawni’r nodau hirdymor?

Beth yw eich barn am y nodau byr-dymor?
Beth yw eich barn am y nodau hirdymor?

A oes unrhyw gamau neu nodau (byr-dymor neu hirdymor) yr ydych yn credu sy’n ar goll? Os oes, beth ydyn nhw?

Question Title

* 6. Will the proposed outcomes set out in ‘Employment, Income and Education’ help reduce the problems and barriers that disabled people face? What, if anything, should be added or removed from these outcomes? Please give reasons for your answer if possible.

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir yn ‘Cyflogaeth, Incwm ac Addysg’ yn helpu i leihau’r problemau a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes unrhyw beth, y dylid ei ychwanegu at neu ei dynnu o’r canlyniadau hyn?
Os yw’n bosibl, rhowch resymau dros eich ateb.

Question Title

* 7. Will the proposed outcomes set out in ‘Independent Living’ help reduce the problems and barriers that disabled people face? What, if anything, should be added or removed from these outcomes? Please give reasons for your answer if possible.

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir yn ‘Byw’n Annibynnol’ yn helpu i leihau’r problemau a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes unrhyw beth, y dylid ei ychwanegu at neu ei dynnu o’r canlyniadau hyn?
Os yw’n bosibl, rhowch resymau dros eich ateb.

Question Title

* 8. Will the proposed outcomes set out in ‘Justice and Supporting Environments’ help reduce the problems and barriers that disabled people face? What, if anything, should be added or removed from these outcomes? Please give reasons for your answer if possible.

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir yn ‘Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol’ yn helpu i leihau’r problemau a’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes unrhyw beth, y dylid ei ychwanegu at neu ei dynnu o’r canlyniadau hyn? Os yw’n bosibl, rhowch resymau dros eich ateb.

Question Title

* 9. We have outlined in the Disabled People’s Rights Plan how the actions and outcomes support the principles set out in the UNCRDP. Do you think that the plan promotes the main principles of access to rights and inclusion within the UNCRDP? Please give reasons for your answer if possible.

Rydym wedi amlinellu yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl sut mae’r camau a’r canlyniadau yn cefnogi’r egwyddorion a nodir yn CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau).A ydych yn credu bod y cynllun yn hyrwyddo’r prif egwyddorion o ran mynediad at hawliau a chynhwysiant o fewn CCUHP? Os yw’n bosibl, rhowch resymau dros eich ateb.

Question Title

* 10. The final section of the Disabled People’s Rights Plan sets out the arrangements for the governance, monitoring, and evaluation of the plan. This means checking how the plan is working, making sure it is going well, and measuring how well the plan is improving the lives of disabled people.

Do you think any other governance, monitoring or evaluation mechanisms should be considered?

Mae’r adran olaf o Gynllun Hawliau Pobl Anabl yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, monitro a gwerthuso’r cynllun. Mae hyn yn golygu gwirio sut mae’r cynllun yn gweithio, sicrhau ei fod yn mynd yn dda, a mesur pa mor effeithiol yw’r cynllun wrth wella bywydau pobl anabl.

A ydych yn credu y dylid ystyried unrhyw drefniadau eraill ar gyfer llywodraethu, monitro neu werthuso?

Question Title

* 11. What do you think about the proposal to establish a Disabled People’s Advisory Board as set out in the plan? What would you like to see it achieve, and how could it best represent and be accountable to disabled people?

Beth yw eich barn am y cynnig i sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Pobl Anabl fel y nodir yn y cynllun? Beth hoffech chi ei weld yn cael ei gyflawni ganddo, a sut allai gynrychioli pobl anabl orau ac fod yn atebol iddynt?

Question Title

* 12. What do you think the likely effects of the Disabled People’s Rights Plan will be on deaf British Sign Language (BSL) signers? We are particularly interested in its potential impact on opportunities to use BSL in Wales.

How will the plan help to promote and strengthen the use of BSL in Wales?

How will the Plan help to break down barriers for BSL signers in accessing information and services?

Beth yw eich barn am yr effeithiau tebygol y bydd y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn eu cael ar bobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)?

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed eich barn am ei effaith bosibl ar gyfleoedd i ddefnyddio BSL yng Nghymru.

Sut bydd y cynllun yn helpu i hyrwyddo a chryfhau defnydd o BSL yng Nghymru?

Sut bydd y cynllun yn helpu i dorri’r rhwystrau i bobl sy’n defnyddio BSL i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau?

Question Title

* 13. What do you think are the biggest barriers that disabled people face in your area or community, and what do you think needs to change to tackle these?

Beth yw’r prif rwystrau sy’n wynebu pobl anabl yn eich ardal neu gymuned chi, a beth sydd angen newid i fynd i’r afael â’r rhain?"

Question Title

* 14. If there was one message you’d want to tell decision-makers in Wales about the rights and lives of disabled people, what would it be?

Os oedd gennych un neges i’w chyfleu i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru am hawliau a bywydau pobl anabl, beth fyddai honno?

Question Title

* 15. What are your top priority areas for change in Wales right now and over the next 10 years?

Please rank in order of priority that you think are the most important for the Welsh Government to focus on.

Beth yw eich prif feysydd blaenoriaeth ar gyfer newid yng Nghymru ar hyn o bryd ac dros y 10 mlynedd nesaf?

Rhowch y rhain mewn trefn flaenoriaeth yn ôl pa rai rydych chi’n credu sy’n bwysicaf i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt.

Question Title

* 16. Are there any other policy priorities you would like the Welsh Government to consider?

A oes unrhyw feysydd polisi eraill yr hoffech i Lywodraeth Cymru eu hystyried?

Question Title

* 17. What is the single most important thing you’d like to see change to improve life for disabled people in Wales?

Beth yw’r un peth pwysicaf yr hoffech ei weld yn newid i wella bywyd i bobl anabl yng Nghymru?

Question Title

* 18. Would you be happy for us to use your comments (anonymously) in our advocacy work?
Fyddech chi’n hapus i ni ddefnyddio eich sylwadau (yn ddienw) yn ein gwaith eiriolaeth?

Question Title

* 19. If you are happy to be contacted further regarding this consultation then please provide your email
Os ydych chi’n hapus i ni gysylltu â chi ymhellach ynghylch yr ymgynghoriad hwn, rhowch eich cyfeiriad e-bost os gwelwch yn dda.

T