Mae Coram PACEY yn cydweithio â Speech and Language UK i addasu eu deunyddiau hyfforddi cefnogi cyfathrebu ac iaith, Early Talk, i raglen hyfforddi gynhwysfawr yn benodol i warchodwyr plant. Mae arnom angen eich arbenigedd i sicrhau bod yr hyfforddiant yn effeithiol ac yn atyniadol.
Mae hyfforddiant Early Talk presennol Speech and Language UK yn arfogi ymarferwyr y blynyddoedd cynnar â'r wybodaeth a'r sgiliau i gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd, iaith, a chyfathrebu ymhlith plant 0-5 oed. Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad iaith nodweddiadol, creu amgylcheddau sy'n gefnogol o gyfathrebu, ac adnabod a chefnogi plant sy'n wynebu heriau lleferydd ac iaith. Gyda mewnwelediadau gan warchodwyr plant rydym yn bwriadu teilwra'r hyfforddiant i gyd-fynd yn well â rôl unigryw'r gwarchodwr plant a'r cyd-destun gwaith. Bydd canfyddiadau'r arolwg yn ein cefnogi i ddatblygu'r hyfforddiant ac adnoddau cysylltiedig.
Cedwir eich ymatebion i'r arolwg hwn yn hollol gyfrinachol. Byddwn yn rhannu ymatebion â Speech and Language UK ond ni fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabyddadwy. Defnyddir y data at ddibenion ymchwil yn unig ac ni fydd unrhyw gyfranogwr unigol yn cael ei adnabod mewn unrhyw adroddiad cysylltiedig.
Mae polisi preifatrwydd Coram yn nodi sut mae Coram yn defnyddio ac yn amddiffyn unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni. Mae Coram wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi'i amddiffyn. I gael gwybodaeth bellach am ein polisi preifatrwydd, gweler: www.coram.org.uk/privacy-policy/