Diolch am gymryd yr amser i lenwi’r arolwg hwn - gan gyfrannu at ddatblygu cynnig i’r Gronfa Loteri Gymunedol Genedlaethol. Gall hyn arwain at raglen o gymorth i Fentrau Trawsnewid dros gyfnod o 3 - 5 mlynedd fyddai’n helpu grwpiau i gyflawni Trawsnewid yn eu cymuned leol. Mae’r arolwg hwn yn bwysig iawn oherwydd bydd yn helpu siapio’r hyn fydd o fudd i’ch grŵp trwy’r rhaglen hon.
Pwysig! Mae’r arolwg hwn ar gyfer pobl sy’n rhan o grwpiau Trawsnewid ym Mhrydain yn unig.
Byddem yn hoffi clywed gan gymaint o bobl sy’n rhan o Drawsnewid â phosib, felly gofynnwch i bawb yn eich grŵp ei lenwi os gwelwch yn dda. Mae hyn oherwydd ein bod yn sylweddoli y gall pobl gael safbwyntiau gwahanol iawn ar yr un materion, a byddem yn hoffi clywed pob un ohonynt.
Ar gyfer grwpiau yng Nghymru a Lloegr:
Mae’r arolwg hwn ar gyfer HOLL aelodau grwpiau Trawsnewid; gofynnwn ichi eu hannog i ymateb fel unigolion, yn ogystal â chi!
Ar gyfer grwpiau yn yr Alban:
Mae’r arolwg hwn ar gyfer HOLL aelodau SCCAN a grwpiau Trawsnewid yr Alban.
Rydym wedi egluro’r rhesymau dros ofyn y cwestiynau ym mhob adran – er mwyn ichi gael syniad o’r materion rydym yn eu hystyried.
Diolch eto am eich mewnbwn i’r broses hon; rydym yn edrych ymlaen at ddarllen eich canlyniadau.
Byddwn yn rhannu crynodeb o’r canlyniadau erbyn Tachwedd 2019 ar ein gwefan, a thrwy eich e-bostio’n uniongyrchol.
Byddwn yn cael gwybod os bydd ein cais yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2020.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â mi ar: michaelthomas@transitionnetwork.org
Mike Thomas
Y Rhwydwaith Trawsnewid