Gwerthusiad o’r polisi i gefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon – arolwg Sefydliadau Addysg Uwch (SAU)

Comisiynwyd Alma Economics i werthuso’r polisi sy’n cefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad hwn yn asesu i ba raddau y mae polisi AGA a diwygiadau deddfwriaethol diweddar wedi cryfhau darpariaeth AGA ac yn archwilio sut mae cynlluniau cymhelliant AGA wedi dylanwadu ar recriwtio athrawon dan hyfforddiant.

Nod yr arolwg hwn yw casglu mewnwelediadau ar ddarpariaeth profiad ysgolion, rôl ymchwil o fewn AGA, a’r partneriaethau rhwng ysgolion a phrifysgolion. Yn ogystal, bydd yr arolwg yn ystyried newidiadau i ddarpariaeth AGA, safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, a dylanwad datblygiadau polisi addysgol ehangach.

Mae’r arolwg yn cymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yn cau am 23:59 ar y 4ydd o Chwefror.

Mae eich cyfranogiad yn yr arolwg hwn yn ddienw ac yn wirfoddol, a gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg drwy gau ffenestr y porwr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei storio a’i ddefnyddio yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â rheolwr y prosiect, Anna Pearson: anna.pearson@almaeconomics.com
1.Rwyf wedi darllen a deall y telerau cyfranogiad fel y’u hamlinellir uchod, ac rwy’n cytuno i gymryd rhan yn yr arolwg
(Gofynnol.)