Screen Reader Mode Icon

Croeso

Yn aml, mae’r broses o ddod yn rhiant – o geisio mabwysiadu neu feichiogi i feichiogrwydd a rhoi genedigaeth, ynghyd â blwyddyn gyntaf y baban – yn cael ei hystyried yn amser hapus iawn. Ond mae’n achosi heriau i sawl un.

Elusen atal hunanladdiad yw Samaritans Cymru sy’n rhoi cymorth emosiynol i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Yn 2024, rydym yn lansio prosiect newydd i godi ymwybyddiaeth am yr effaith gall dod yn rhiant ei chael ar eich iechyd meddwl. Hoffem wella’r cymorth sydd ar gael i ddynion a menywod ledled Cymru.

I wneud hyn, hoffem ddysgu mwy am brofiadau pobl o ddod yn rhiant, yr effaith a gafodd ar eich iechyd meddwl, a pha gymorth – os o gwbl – a gawsoch yn ystod y cyfnod hwn. Byddem wrth ein boddau i glywed oddi wrthych os ydych chi’n bodloni’r holl feini prawf canlynol:
  • dros 18 oed
  • yn byw yng Nghymru
  • wedi ceisio beichiogi, wedi colli baban, wedi bod yn feichiog, wedi ceisio mabwysiadu plentyn, wedi profi anffrwythlondeb neu wedi cael triniaethau ffrwythloni (fel rhoi wy), wedi rhoi genedigaeth a/neu wedi bod yn rhiant newydd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf (naill ai chi neu’ch partner)
  • wedi cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl ar y pryd
Cewch eich holi am ddod, neu geisio dod, yn rhiant, eich iechyd meddwl, a’r cymorth a gawsoch. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud i’w orffen a’r dyddiad cau yw Mawrth 4 2024.

Byddwn yn cadw eich atebion yn gyfrinachol ac yn ddienw. Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i ddatblygu adroddiad polisi y bydd Samaritans Cymru yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar newid yng Nghymru ac i lunio adnodd di-dâl i gefnogi unrhyw un sy’n dod yn rhiant yng Nghymru. Byddwn hefyd yn defnyddio dyfyniadau dienw yn yr adnodd i helpu pobl eraill sy’n wynebu anawsterau tebyg.

Dylech nodi bod yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Listen & Learn Associates Ltd ar ran Samaritans Cymru. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a rennir gennych ei ddefnyddio’n unol â’r gyfraith diogelu data perthnasol a Pholisi Preifatrwydd Samaritans, sydd ar gael yn https://www.samaritans.org/privacy-statement/.

Cliciwch ‘Next’ isod i ddysgu mwy am yr ymchwil a’r rhan y byddwch chi’n ei chwarae ynddo.
0 of 44 answered
 

T