Arolwg Ardoll Ymwelwyr Sir Conwy

Diolch am gymryd rhan yn ein harolwg. Mae eich adborth yn bwysig.
Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr Arfaethedig yn Sir Conwy

Cyflwyniad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio barn ynghylch a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir o dan ddarpariaethau Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025.

Mae Ardoll Ymwelwyr yn dâl a godir ar arosiadau dros nos mewn llety i ymwelwyr (er enghraifft gwestai, tai llety, llety hunanddarpar, safleoedd gwersylla a llety tebyg. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y cyfraddau ardoll cenedlaethol canlynol:



· £1.30 y person, y noson ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o lety

· £0.75 y person, y noson ar gyfer hosteli a lleiniau pebyll


Os ydy darparwyr llety i ymwelwyr wedi cofrestru at ddibenion TAW, bydd TAW yn berthnasol i gyfanswm y gost a godir ar ymwelwyr, gan gynnwys unrhyw ardoll a drosglwyddir i’r ymwelydd.


Mae’r eithriadau canlynol ar waith:

· pobl o dan 18 oed sy’n aros ar lain wersylla neu mewn ystafelloedd a rennir (megis hostel neu ystafell gysgu)

· pobl sy’n aros am fwy na 31 noson mewn un archeb

· pobl mewn llety argyfwng neu lety dros dro a drefnir gan y Cyngor lleol

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Nghonwy, a bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw:

· casglu barn ynghylch a ddylid cyflwyno ardoll; a

· deall safbwyntiau ar sut y gallai weithredu’n lleol; a

· llywio unrhyw benderfyniad yn y dyfodol gan aelodau etholedig.

Beth fyddai ardoll yn ei olygu?
· Byddai’r ardoll yn berthnasol i ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety â thâl.

· Byddai’n cael ei chasglu gan ddarparwyr llety.

· Byddai unrhyw incwm a godir yn cael ei gadw yn Sir Conwy ac yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau ac isadeiledd sy’n ymwneud ag ymwelwyr a chymunedau.

· Byddai Fforwm Partneriaeth Ardoll yn cynghori ar sut y dylid gwario incwm yr ardoll.

Sut y gellid defnyddio’r arian?

· Cynnal a gwella mannau cyhoeddus

· Cefnogi isadeiledd twristiaeth a chyfleusterau ymwelwyr

· Gwella cludiant a mynediad

· Cefnogi asedau treftadaeth, diwylliant a chymunedol

· Rheoli effeithiau amgylcheddol


Enghreifftiau yn unig yw’r rhain. Nid oes penderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch sut y byddai cyllid yn cael ei ddyrannu.

Sut i ddefnyddio’r ffurflen hon

Atebwch gynifer o gwestiynau â phosibl. Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn.

Dewiswch o’r canlynol pa gategori budd-ddeiliad sy’n berthnasol i chi. Bydd hyn yn helpu i deilwra’r arolwg i’r cwestiynau mwyaf perthnasol.


Datganiad Preifatrwydd
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir yn cael ei defnyddio at ddibenion dadansoddi’r arolwg yn unig. Bydd yn cael ei rhannu â chwmni allanol ar gyfer dadansoddi. Bydd unrhyw adroddiadau cyhoeddus yn ddienw. Bydd data personol yn cael ei gadw am 5 mlynedd.

Ymwadiad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn casglu gwybodaeth am gyfeiriad IP er mwyn atal ymatebion dyblyg neu awtomatig. Defnyddir y wybodaeth hon i ddiogelu cywirdeb canlyniadau’r ymgynghoriad yn unig ac ni chaiff ei defnyddio i adnabod ymatebwyr yn bersonol. Caiff yr holl ddata ei brosesu’n ddiogel ac yn unol â chyfreithiau diogelu data perthnasol.