Adran 4: Beth ddylai Consortiwm Hawliau Dynol Cymru ei wneud?
Rydyn ni am i’n gwaith adlewyrchu eich syniadau, eich safbwyntiau, eich anghenion a’ch blaenoriaethau. Mae ein lefelau staffio ac amser yn gyfyngedig, felly allwn ni ddim gwneud popeth. Ond rydyn ni am i’r hyn rydyn ni’n canolbwyntio arno gael ei dywys gan unigolion sydd â phrofiad byw, gan fudiadau’r sector gwirfoddol, a gan gymdeithas sifil yn ehangach. Hoffen ni wybod beth fyddai’n eich helpu chi ac yn ychwanegu gwerth i’ch gwaith hawliau dynol.