TROSOLWG O’R RHAGLENMae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (EPEV) yn rhaglen fentora a hyfforddi trawsgydraddoldeb am ddim a fwriedir i gefnogi pobl o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i gamu i fywyd cyhoeddus ac ysgwyddo rolau arwain mewn mannau lle gwneir penderfyniadau ledled Cymru. Nid yw’r rhaglen yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac mae’n agored i unigolion o bob cefndir gwleidyddol neu anwleidyddol.
Mae EPEV yn fenter gydweithredol a gydlynir gan
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru mewn partneriaeth ag
Anabledd Cymru,
Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST), a
Stonewall Cymru. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Pan fydd mannau lle gwneir penderfyniadau yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, mae pawb yn elwa. Mae arweinyddiaeth gynhwysol yn arwain at bolisïau mwy teg, cynrychiolaeth gryfach o anghenion y gymuned, a mwy o ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau. Mae profiad bywyd yn dod â dealltwriaeth ffres – trwy helpu i ganfod bylchau, herio rhagdybiaethau, a siapio datrysiadau sy'n gweithio i bawb. P'un ai yw'n llunio polisi addysg, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, neu’n cryfhau ymgysylltiad cymunedol, mae cynrychiolaeth amrywiol yn esgor ar ganlyniadau mwy ymatebol, arloesol ac effeithiol i gymunedau.
Trwy fentora un-i-un, hyfforddiant wedi'i deilwra i'ch nodau, dysgu gan gymheiriaid a chyfleoedd rhwydweithio – bydd EPEV yn eich helpu i ennill y sgiliau, yr hyder a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch i arwain. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, gwasanaeth cyhoeddus, y cyfryngau, neu'ch cymuned leol, nod y rhaglen yw cefnogi eich siwrnai.
I ddysgu mwy, ewch i:
https://epev.cymru/