Cofrestru ar gyfer Athrawon Caru Darllen 2026/27

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud yn bennaf â meithrin cariad at ddarllen ymhlith athrawon, fel y gallant deimlo’n hyderus wrth ysbrydoli eu disgyblion i wneud yr un peth.

Ni fydd yr holl ddata personol a gesglir fel rhan o’r arolwg hwn yn cael ei rannu gydag unrhyw bartïon allanol. Mae rhagor o wybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Cyngor Llyfrau Cymru ar gael yma.

1.Enw:
2.Enw'r Ysgol:
3.Cyfeiriad yr ysgol:
4.Ai cofrestru ar gyfer y cynllun cynradd neu’r cynllun uwchradd ydych chi'n ei wneud?
5.Rhif ffôn yr ysgol
6.Cyfeiriad e-bost:
7.Pa flwyddyn/flynyddoedd ydych chi'n eu haddysgu? (Mae’r cynllun yn targedu blynyddoedd 3-6 yn y cynradd a bl 7 yn yr uwchradd)
8.Os yn athro cynradd, faint o blant sydd yn eich dosbarth?
9.Os yn athro uwchradd, faint o blant sydd ym mlwyddyn 7
10.A oes llyfrgell yn eich ysgol?
11.Mewn byd delfrydol, sut fyddech chi’n addasu neu ddatblygu llyfrgell/gofod darllen yr ysgol?
12.Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi gwybod erbyn 16 Gorffennaf 2026 os ydych wedi bod yn llwyddiannus i gael lle ar y prosiect Athrawon Caru Darllen ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27.
13.Er mwyn manteisio’n llawn ar y prosiect, bydd disgwyl i chi wreiddio darllen er pleser yn eich amserlenni wythnosol. Bydd angen dangos eich bod wedi cynnal sesiynau rheolaidd gyda'ch disgyblion ar lyfrau penodol a chadw tystiolaeth o'r hyn a wnaed er mwyn adrodd yn ôl
14.Er mwyn sicrhau eich bod chi’n elwa’n llawn o’r sesiynau hyfforddi, bydd disgwyl i chi fynychu pob un o’r 4 sesiwn yn ystod y flwyddyn. Os am ryw rheswm na fyddwch yn gallu mynychu sesiwn ar y funud olaf, rhaid penderfynu ar ddyddiad arall i drefnu cyfarfod rhithiol unigol neu ymuno gyda sesiynau rhanbarthau eraill.
Diolch am ddatgan eich diddordeb yn y prosiect Athrawon Caru Darllen. Byddwch yn cael gwybod os ydych chi'n llwyddiannus erbyn y 15fed o Orffennaf.