Neidio i'r cynnwys
Ymchwiliad Ehangach ar ei Liwt ei Hun Arfaethedig - Tai: Ymateb i adroddiadau am ddiffyg atgyweirio, lleithder a llwydni ar gyfer tenantiaid sy’n agored i niwed
Cyflwyniad
Croeso i'n hymgynghoriad.
Fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”), gallwn ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ehangach ar ei liwt ei hun” lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu. Fel gyda'n holl ymchwiliadau, y prif brawf yw a yw darparwr gwasanaeth wedi gweithredu yn unol â'r gyfraith, ei bolisïau a'i weithdrefnau ei hun a safonau gweinyddu da.
Rydym bellach yn ystyried cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun i sut mae darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb i adroddiadau a chwynion sy'n ymwneud â diffyg atgyweirio, gyda ffocws ar leithder a llwydni, gan denantiaid sy’n agored i niwed.
Wrth gyfeirio at “ddarparwyr tai cymdeithasol”, rydym yn golygu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (“LCC”, a elwir hefyd yn Gymdeithasau Tai) a chynghorau lleol.
Diben yr ymchwiliad fyddai nodi a yw darparwyr tai cymdeithasol yn ymateb yn briodol i adroddiadau a phryderon sy'n ymwneud â diffyg atgyweirio, lleithder a llwydni, gan ystyried anghenion tenantiaid sy’n agored i niwed.
Os oes angen, byddai'r ymchwiliad yn nodi beth all darparwyr tai cymdeithasol ei wneud yn well i sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon gan denantiaid sy’n agored i niwed yn briodol ac mewn modd amserol. Byddai'r ymchwiliad hefyd yn rhannu unrhyw arfer da a nodwyd i sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gwahoddwn sylwadau ac ymatebion ar yr ymchwiliad arfaethedig.
Rhannwch eich barn gyda ni erbyn
12:00 PM (canol dydd)
ar 8 Rhagfyr 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn neu os hoffech ymateb mewn ffordd wahanol, e-bostiwch eich ymateb at
arliwteihun@ombwdsmon.cymru
neu ffoniwch
0300 790 0203
a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Arwain ar ei Liwt ei Hun.
Manylion cyswllt
Enw
Sefydliad
Cyfeiriad e-bost
Rhif ffôn
A allwn gysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich ymateb? Os yw'r ateb yn ie, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn gyda ni uchod.
Ie
Na
Os oes gennych unrhyw dystiolaeth gefnogol yr hoffech i ni ei hystyried, mae opsiwn i atodi ffeiliau ar ddiwedd y ffurflen hon. Gallwch hefyd anfon unrhyw dystiolaeth gefnogol trwy e-bost i
arliwteihun@ombwdsmon.cymru
.
1 / 5
20%