Cyflwyniad

Mae Bectu/CULT Cymru wedi derbyn arian gan y Comisiwn Ffilm Brydeinig i edrych ar Waith Teg, Iechyd Meddwl a Lles yn y Sector Ôl-gynhyrchu. Mae Bectu/CULT Cymru eisoes wedi gwneud gwaith sylweddol o ran iechyd meddwl a lles drwy'r cynlluniau peilot Hwylusydd Lles a gefnogir gan Cymru Greadigol a '6ft from the Spotlight'.

Mae adborth gan aelodau Bectu sy'n gweithio ym maes Ôl-gynhyrchu wedi nodi eu bod nhw a'u cydweithwyr yn wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd yr unigedd y maent yn ei wynebu, yn enwedig newydd-ddyfodiaid a'r rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae cynnydd mewn technoleg, cynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio gartref ers y pandemig a'r arafu sector diweddar wedi gwaethygu'r sefyllfa.

Yn ôl Arolwg 'Looking Glass' 2022 yr Elusen Ffilm a Theledu, dim ond 11% o'r ymatebwyr sy'n credu bod y diwydiant ffilm a theledu yn lle da i weithio o ran iechyd meddwl.

Dangosodd arolygon diweddar Bectu ynglŷn â'r diffyg gwaith yn y sector sgrin fod 54% yng Nghymru allan o waith, bod 68% o'r ymatebwyr yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a bod 79% yn gweld pethau'n anodd yn ariannol. Dywedodd 47% o'r gweithlu yng Nghymru eu bod yn ystyried gadael y diwydiant.

Rydym wedi defnyddio gwybodaeth o twlcit 'Whole Picture' yr Elusen Ffilm a Theledu, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r elusen iechyd meddwl Mind.

Pwrpas yr arolwg hwn yw cael gwybodaeth bellach am y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl gwael yn y sector ôl-gynhyrchu fel y gallwn nodi ffyrdd o weithio gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Mae'r holl ymatebion i'r arolwg hwn yn gyfrinachol a byddant yn cael eu cadw'n ddiogel. Mae polisi preifatrwydd Bectu/CULT Cymru i'w weld ar-lein yma : cult.cymru/cy/polisiau-preifatrwydd

Question Title

1. Angenrheidiol: (Required.)

Question Title

2. Enw (Required.)

Question Title

3. Cyfeiriad e-bost (Required.)

Question Title

4. Ble ydych chi'n byw?

Question Title

5. Ble ydych chi'n gweithio?

Question Title

6. Beth yw eich statws cyflogaeth? (Required.)

Question Title

7. Am ba hyd ydych chi wedi cael gyrfa mewn ôl-gynhyrchu? (Required.)

Question Title

8. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau'r maes ôl-gynhyrchu rydych chi'n gweithio ynddo, neu'n anelu at weithio ynddo? Dewiswch hyd at 5 prif faes.

Question Title

9. Ym mha genre neu genres ydych chi'n gweithio? (Required.)

Question Title

10. Ymhle ydych chi'n gwneud y rhan fwyaf o'ch gwaith?

Question Title

11. Pa mor dda yw eich iechyd meddwl wrth weithio mewn ôl-gynhyrchu a'r diwydiant sgrin ar hyn o bryd?

Isel Gweddol Da iawn
Clear
i We adjusted the number you entered based on the slider’s scale.

T