Cae chwarae King George V yn Nantglyn

Croeso

Mae Cyngor Cymuned Nantglyn yn bwriadu gwella maes chwarae King George V.
Hoffem ddeall sut mae’r ardal presennol yn cael ei ddefnyddio a beth yw dymuniadau’r gymuned am y dyfodol. Yn dilyn yr ymgynghoriad yma byddwn yn gallu ceisio am arian i wella’r safle.

Yn dilyn archwiliad o’r offer presennol, mae’r rhannau canlynol o faes chwarae presennol Nantglyn eisoes wedi’u tynnu, neu ar fin cael eu tynnu: y ffrâm ddringo a’r llithren, y bariau mwnci/siglen a’r llwybr cydbwyso.

Mae rhai o'r cwestiynau wedi'u hanelu at blant, os ydych yn breswylydd lleol yn cwblhau'r cais hwn ond nad oes gennych unrhyw blant neu wyrion ac ati, yna gallwch ddefnyddio'r opsiwn amherthnasol ar gwestiynau 1-6. Yna gallwch ateb cwestiynau ynghylch ymddangosiad y maes chware.
Current Progress,
0 of 8 answered