Cyflwyniad i'r arolwg

Mae Cyngor Sir Penfro yn darparu gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus poblogaidd sydd mawr ei angen ac sy’n rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.
Fodd bynnag, mae gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac nid yw Sir Benfro yn eithriad. Mae angen i ni leihau ein cyllideb wrth sicrhau ein bod yn canolbwyntio gwasanaethau lle mae eu hangen fwyaf. Mae arnom angen eich cymorth i wneud yn siŵr bod gennym ddealltwriaeth gyfredol o'ch anghenion, ac i'n helpu i wneud y penderfyniadau gorau, fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau llyfrgell ar gyfer y sir gyfan.
O fis Mai i fis Awst, rydym yn cynnal arolwg cyhoeddus, cyfarfodydd cyhoeddus, grwpiau ffocws a sgyrsiau gyda chymaint o bobl â phosibl, er mwyn casglu eich barn a'ch syniadau. Yn yr hydref, byddwn yn defnyddio'ch adborth i geisio datblygu model sy'n gweithio. Bydd y model hwn wedyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Am y tro, rydyn ni eisiau clywed gennych chi, p'un a ydych chi'n defnyddio llyfrgelloedd ai peidio. Mae'r arolwg yn gofyn 12 cwestiwn i chi am yr hyn sy'n bwysig yn eich barn chi, pam a sut rydych chi'n defnyddio (neu ddim yn defnyddio) llyfrgelloedd, a'ch barn chi ar sut gallwn ni leihau costau.
Diolch i chi am gwblhau'r arolwg hwn – gwerthfawrogir eich mewnbwn yn fawr iawn.
Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd / This survey is also available in English

T