Holiadur Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae’r Cyngor yn cyfrannu cymhorthdal at rai gwasanaethau nad ydynt yn cael eu hystyried i fod yn fasnachol broffidiol. Mae hyn yn golygu gwasanaeth lle na fyddai pris y tocyn yn talu am y gost o redeg y gwasanaeth. Yn yr achosion hyn mae’r Cyngor yn camu i’r bwlch i gefnogi’r gwasanaeth. Fel arfer bydd y gwasanaethau hyn ar ddydd Sul neu gyda’r nos, mewn ardaloedd gwledig, yn fuan yn y bore neu i ysgolion lle nad yw’r plant yn gymwys i deithio am ddim. Yn y cyfnod anodd hwn, mae angen inni flaenoriaethu ein gwariant a holi eich barn chi am sut i wneud hyn. Bwriadwn dargedu’r cymorth at y gwasanaethau hynny sy’n derbyn llai o gymhorthdal am bob teithiwr, h.y. lle gwneir defnydd da ohonynt ac maent yn costio llai. *cyfrifir hyn drwy rannu’r gost am y flwyddyn gyda nifer y teithiwr pob blwyddyn.
Cynigiwn ddidol ein gwasanaethau yn rhai ”coch, oren neu wyrdd” ar sail y cymhorthdal a delir am bob teithiwr.
Y gwasanaethau coch yw’r rhai lle mae’r cymhorthdal dros £2 y pen – byddai’r rhain yn cael eu tynnu’n ôl.
Y gwasanaethau oren yw’r rhai lle mae’r cymhorthdal rhwng £1.00 a £1.99; bydd y rhain yn cael eu cadw, ond yn cael eu monitro’n ofalus i geisio gwella eu perfformiad drwy gymell mwy o bobl i’w defnyddio.
Y gwasanaethau gwyrdd yw’r rhai lle mae’r cymhorthdal yn llai na £1.00 y pen y trip. Byddwn yn cadw’r rhain, oherwydd tybiwn eu bod yn cael eu defnyddio’n dda, eu bod yn gymharol rad ac felly’n werth da am arian.

Nodwch isod sut ydych yn meddwl ddylai’r Cyngor flaenoriaethu ei wariant.

T