Ffurflen Gwybodaeth am y Mentor 2026-27 Diolch am eich diddordeb mewn dod yn fentor ar y rhaglen mentora a hyfforddi Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Cwblhewch y ffurflen isod i ddweud mwy wrthym amdanoch chi'ch hun. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn ein helpu i gasglu'r holl fanylion sydd eu hangen arnom ac yn ein helpu i'ch paru â rhywun a all elwa o'ch profiad a'ch arbenigedd. Question Title * 1. Manylion personol Rydym yn gofyn am yr wybodaeth hon i gefnogi cyfathrebu effeithiol a'n helpu i wneud parau priodol o fewn y rhaglen. Byddwn ond yn rhannu'r wybodaeth angenrheidiol (fel eich enw, rhagenwau, manylion cyswllt dewisol, bywgraffiad ac unrhyw ddolenni proffesiynol rydych chi'n eu darparu) gyda'r unigolyn y byddwch chi’n ei fentora. Bydd yr holl wybodaeth arall yn aros yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion cydlynu’r rhaglen a hygyrchedd yn unig. Enw Llawn Cyfeiriad E-bost Rhif Ffôn Ardal awdurdod lleol Manylion cyswllt dewisol i'w rhannu gyda'r unigolyn y byddwch chi’n ei fentora Question Title * 2. Gwybodaeth ddewisol Llysenw Rhagenwau Question Title * 3. Cyswllt mewn Argyfwng Enw Rhif ffôn Question Title * 4. Defnyddiwch y blwch hwn i rannu dolenni i'ch gwefan broffesiynol, cyfryngau cymdeithasol neu erthyglau perthnasol Question Title * 5. Rhestrwch unrhyw ieithoedd rydych chi'n rhugl ynddynt ac y byddech yn hapus i'w defnyddio wrth gwrdd â’r unigolyn sy’n cael ei fentora. Amdanoch chiHoffem ddod i'ch adnabod chi’n well a deall eich cymhellion, fel y gallwn eich paru'n ofalus â rhywun y mae ei nodau a'i ddiddordebau’n cyd-fynd â'ch profiad a'ch gwerthoedd chi Question Title * 6. Ydych chi wedi mentora unrhyw un o'r blaen (yn ffurfiol neu'n anffurfiol)? Nac ydw Ydw (rhowch ddisgrifiad byr) Question Title * 7. Beth sy'n eich ysgogi i ddod yn fentor gyda'r rhaglen PCLlC? Question Title * 8. Rhowch fywgraffiad byr rydych chi'n hapus i ni ei rannu gyda'r unigolyn y byddwch chi’n ei fentora. Gallai hyn gynnwys eich cefndir proffesiynol, meysydd diddordeb neu arbenigedd, ac unrhyw beth arall yr hoffech i'r unigolyn y byddwch chi’n ei fentora wybod amdanoch chi. Eich Rôl a'ch Arbenigedd Presennol Rydym yn casglu manylion am eich rôl, eich rhwydweithiau a'ch sgiliau presennol i helpu i greu parau ystyrlon a chefnogol rhwng mentoriaid a’r rhai maen nhw’n eu mentora, yn seiliedig ar brofiadau cyffredin, diddordebau a meysydd arbenigedd. Question Title * 9. Dywedwch wrthym am eich rôl bresennol Question Title * 10. Enw'r sefydliad Question Title * 11. Sector Question Title * 12. Rydym yn deall bod gan bobl ystod eang o arbenigedd nad yw'n cael ei adlewyrchu'n glir gan eu swydd bresennol. Dywedwch ychydig mwy wrthym am y rhwydweithiau rydych chi'n cael mynediad atynt ac unrhyw feysydd profiad yr hoffech eu rhannu gyda’r unigolyn y byddwch chi’n ei fentora. Question Title * 13. Oes gennych chi brofiad byw o gael eich gwthio i'r ymylon neu rwystrau i fywyd cyhoeddus y byddech chi'n hapus i'w rannu? Question Title * 14. Mae mentoriaid PCLlC yn dod ag ystod eang o sgiliau a phrofiadau amrywiol, pob un ohonynt yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Er mwyn ein cefnogi yn y broses baru, rhowch wybod i ni os ydych chi'n teimlo bod gennych brofiad arbennig yn unrhyw un o'r meysydd canlynol Sefyll mewn etholiad Siarad cyhoeddus/siarad ar y cyfryngau Ymgyrchu/gweithredaeth Llywodraethu/byrddau Arweinyddiaeth gymunedol Llywio Sefydliadau Arall (dywedwch fwy wrthym) Question Title * 15. Rydym yn croesawu cyfranogwyr o bob cwr o'r sbectrwm gwleidyddol ac nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. Gall bod yn ymwybodol o'ch ymlyniad gwleidyddol ein helpu trwy'r broses baru. Rhannwch yr wybodaeth hon dim ond os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny. Plaid wleidyddol Annibynnol Dim ymlyniad gwleidyddol Mae’n well gen i beidio â dweud Ymrwymiad ac Argaeledd Mae cyswllt rheolaidd a dibynadwy yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn sicrhau bod yr unigolyn rydych chi’n ei fentora’n cael cefnogaeth gyson trwy gydol y rhaglen Question Title * 16. Ydych chi'n gallu ymrwymo i roi tua 1 awr o fentora bob 4–6 wythnos (dros y ffôn, Zoom/Teams, neu wyneb yn wyneb) gydol y rhaglen (Gorffennaf i Fawrth)? Ydw Nac ydw Question Title * 17. Dywedwch wrthym am eich mentorai delfrydol. Ystyriwch ble fydden nhw ar eu taith bywyd cyhoeddus, pa bethau y bydden nhw’n angerddol amdano, a pha ddyheadau y gallech chi eu cefnogi. Hygyrchedd a Chymorth Rydym eisiau sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol ac y gallwn roi unrhyw gefnogaeth neu addasiadau sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan yn llawn. Question Title * 18. Oes gennych unrhyw anghenion mynediad y dylem fod yn ymwybodol ohonynt i gefnogi eich cyfranogiad yn y rhaglen? Nac oes Oes (rhowch wybod mwy i ni) Question Title * 19. Canolwyr Rhowch enw a manylion cyswllt dau ganolwr a all dystio i'ch addasrwydd i fod yn fentor. (Byddwn yn gofyn iddynt lenwi ffurflen fer.) Enw E-bost cyswllt Enw E-bost cyswllt Question Title * 20. Datganiadau Ticiwch i gadarnhau eich bod yn cytuno â'r datganiadau canlynol: Rwy'n cadarnhau bod yr wybodaeth a roddir yn gywir Rwy'n cytuno i gynnal gwerthoedd PCLlC, gan gynnwys cynhwysiant, parch a chyfrinachedd Rwyf wedi darllen a deall Cytundeb Preifatrwydd a Defnydd Data PCLlC . Rwy'n deall sut y bydd fy nata yn cael ei ddefnyddio a'i storio ac yn cytuno â'r telerau a amlinellir uchod. Rwyf wedi darllen a deall disgwyliadau Cod Ymddygiad PCLlC ac yn cytuno i gynnal y gwerthoedd a'r ymddygiadau a amlinellir uchod trwy gydol fy nghyfranogiad yn y rhaglen. Question Title * 21. Ffotograffiaeth a Chyhoeddusrwydd Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (EPEV) a sefydliadau partner gan gynnwys RhCM Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru ac EYST weithiau'n casglu ffotograffau, recordiadau fideo, tystebau, a straeon cyfranogwyr yn ystod gweithgareddau a digwyddiadau y rhaglen i hyrwyddo'r rhaglen a dathlu cyflawniadau cyfranogwyr. Gellir defnyddio'r rhain at ddibenion cyfathrebu, adrodd, gwerthuso, codi arian, archifau a hyrwyddo ar draws sianeli digidol a phrint, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, adroddiadau, cyflwyniadau, deunyddiau cyllido, a sylw yn y cyfryngau. Gellir cadw ffotograffau, recordiadau fideo, a thystebau a'u defnyddio am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau'r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal oni bai bod caniatâd yn cael ei dynnu'n ôl yn gynharach. Rwy'n rhoi fy nghaniatâd i PCLlC ddefnyddio ffotograffau neu fideos ohonof at ddibenion cyhoeddusrwydd Nid wyf yn rhoi fy nghaniatâd i PCLlC ddefnyddio ffotograffau neu fideos ohonof Cyflwyno