Arolwg o fwriadau ffermwyr cig eidion a defaid ar gyfer eu busnesau yng Nghymru, 2026
Mae chwyddiant a chostau mewnbwn fferm uchel yn parhau i herio'r sector amaethyddol yn sylweddol, gan effeithio ar broffidioldeb a chymhlethu gwneud penderfyniadau i ffermwyr Cymru. Er mwyn deall y materion hyn yn well, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cynnal arolwg o fusnesau ffermio Cymru bob blwyddyn ers mis Medi 2022.
Mae HCC bellach yn gwahodd ffermwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn pumed arolwg i asesu heriau presennol a chynlluniau busnes y dyfodol, gan helpu i lywio trafodaethau yn y dyfodol.
Mae HCC bellach yn gwahodd ffermwyr ledled Cymru i gymryd rhan mewn pumed arolwg i asesu heriau presennol a chynlluniau busnes y dyfodol, gan helpu i lywio trafodaethau yn y dyfodol.
Mae eich barn chi yn hanfodol ar gyfer yr ymchwil hwn. Drwy gwblhau’r arolwg 10-munud hwn, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn raffl am ddim gyda chyfle i ennill taleb cig gwerth £100.
Mae manylion am sut y bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei thrin i'w gweld yn yr Hysbysiad Preifatrwydd.
Cliciwch ar y botwm OK isod i barhau:
