Ticiwch y Modd Darllenydd Sgrin i wneud yr arolwg hwn yn gydnaws â darllenwyr sgrin.
Ticiwch y Modd Darllenydd Sgrin i wneud yr arolwg hwn yn gydnaws â darllenwyr sgrin.

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr: Dweud eich dweud

Rhagarweiniad

Pobl a sefydliadau lleol sy’n adnabod eu cymunedau orau. Hoffem glywed beth sy’n bwysig i chi, a beth rydych chi’n meddwl ddylai’r gronfa gymunedol hon ei gefnogi yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr (y Gronfa) yn fuddsoddiad hirdymor gwerth £19 miliwn sy’n cefnogi cymunedau arfordirol ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Ers 2015, mae grantiau wedi cefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at gymunedau cryfach a mwy cynaliadwy, ffyniant lleol a thwf economaidd, yn ogystal â lleihau tlodi ac anghydraddoldeb.

Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydym am i leisiau lleol helpu i lywio’r camau nesaf. Mae’r arolwg hwn yn gyfle i chi rannu eich barn am y blaenoriaethau yn eich cymuned, beth y credwch chi sy’n gweithio’n dda, a ble y gallai’r Gronfa gael yr effaith fwyaf yn y blynyddoedd i ddod.

Rydym am glywed gan bawb, p’un a ydych wedi derbyn cyllid, wedi gwneud cais yn y gorffennol, yn gwybod am brosiectau y mae’r Gronfa wedi’u cefnogi, neu os nad ydych erioed wedi clywed am y Gronfa cyn heddiw. Gall pob safbwynt helpu i greu darlun cliriach o flaenoriaethau a chyfleoedd lleol.

Os ydych wedi bod yn rhan o sefydliad sydd wedi derbyn grant gan y Gronfa yn y gorffennol, gallwch hefyd rannu eich barn am yr hyn a weithiodd yn dda, a’r hyn a allai fod wedi gweithio’n well.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr yma.

Cynhelir yr arolwg hwn yn annibynnol gan 20 Degrees ar ran (Cymorth Cymunedol Gwirforddol Conwy (CCGC), rheolwr y Gronfa. Dim ond ymatebion sydd wedi’u dienwi a’u cyfuno fydd ar gael iddynt. Mae polisi preifatrwydd ar gyfer y gwaith hwn i’w weld yma.

Diolch am dreulio amser yn rhannu eich barn a helpu i siapio dyfodol y Gronfa.
Cynnydd Presennol,
0 o 67 wedi eu hateb