Enwebiadau ar gyfer Calonnau dros y Celfyddydau 2018
 
Ymunwch â ni i ddathlu’r Cynghorau, y Cynghorwyr a Swyddogion y Cynghorau sy’n gwneud gwaith arbennig i sicrhau bod y celfyddydau’n aros yng nghalon bywyd y gymuned.

Mae’r Ymgyrch Genedlaethol dros y Celfyddydau yn cyflwyno’r ail rownd o Wobrau Calonnau dros y Celfyddydau. Medrwch enwebu yn y pedwar categori canlynol:

1.   Y Fenter Orau yn y Celfyddydau gan Awdurdod Lleol

Mae hwn yn gategori eang iawn sy’n cynnwys unrhyw fath o brosiect neu raglen a’i harweinir gan Awdurdod Lleol, neu lle mae’r Awdurdod Lleol yn bartner hanfodol ac sy’n gwbl ymrwymedig i’r gwaith. Gallai hyn olygu unrhyw beth, o raglen gerddoriaeth glasurol newydd i brosiect sy’n defnyddio’r celfyddydau i gynyddu lefelau ailgylchu gwastraff yn y cartref.

Edrychwn am fentrau sy’n dangos:
  • Tystiolaeth o’r angen am y fenter
  • Arweinyddiaeth gadarn gan yr Awdurdod Lleol
  • Cysylltiadau cyfathrebu ac ymrwymiad effeithiol â’r gymuned yn natblygiad a throsglwyddiad y prosiect
  • Partneriaethau effeithiol, gan gynnwys rhai ag Awdurdodau Lleol eraill, sefydliadau celfyddydol proffesiynol a sefydliadau eraill o’r sector gwirfoddol
  • Arloesi, yn enwedig os y bydd yn arwain at y defnydd llawn o adnoddau
  • Cynaliadwyaeth y fenter
  • Effaith gweledol ac amlwg yn y gymuned dan sylw 
2.   Yr Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau mewn Awdurdod Lleol - Cynghorydd A Swyddog

Mae arweinyddiaeth yn hanfodol bwysig er mwyn cadw’r celfyddydau yn agos at galon cymunedau lleol. Weithiau, mae pethau’n digwydd oherwydd cefnogaeth weithredol gan Arweinydd Cyngor neu Faer, ond yn amlach, Cynghorwyr a Swyddogion Cynghorau sy’n gweithio’n angerddol ac yn ddiflino ar brosiectau a rhaglenni celfyddydol yn eu cymunedau.

Rydyn yn edrych am unigolion (ar gyfer dau gategori, Hyrwyddwr Celfyddydau ymysg y Cynghorwyr etholedig, a Hyrwyddwr Celfyddydau ymysg y rhai sydd ar staff yr Awdurdod Lleol) sydd:
  • Yn hyrwyddwyr blaenllaw i’r celfyddydau yn eu hardaloedd
  • Wedi cael dylanwad – o fewn y Cyngor a thu allan – gan godi statws y celfyddydau ar yr agenda
  • Wedi ymuno a chefnogi partneriaethau i ddatblygu a chyflawni prosiectau celfyddydol yn eu cymunedau
  • Yn gallu arwain at newid cadarnhaol yn y gymuned o ganlyniad i’w hymyrraeth ac arweiniad. 
3.   Y Prosiect Celfyddydau Gorau gan Awdurdod Lleol sy’n hyrwyddo Cydlynu Cymunedol

Gall y celfyddydau ddod â ni at ein gilydd yn effeithiol iawn. Maent yn ein cynorthwyo i archwilio materion dyrys mewn man diogel, tra’n cynyddu cyd-ddealltwriaeth.

Edrychwn am fentrau celfyddydol a gafodd eu cynllunio’n benodol i gynyddu cydlyniad cymunedol, ac sy’n dangos:
  • Tystiolaeth o’r angen am y fenter
  • Arweinyddiaeth gadarn gan yr Awdurdod Lleol
  • Cysylltiadau cyfathrebu ac ymrwymiad effeithiol â’r gymuned yn natblygiad a throsglwyddiad y prosiect
  • Partneriaethau effeithiol, gan gynnwys rhai ag Awdurdodau Lleol eraill, sefydliadau celfyddydol proffesiynol a sefydliadau eraill o’r sector gwirfoddol 
  • Arloesi, yn enwedig os y bydd yn arwain at y defnydd llawn o adnoddau
  • Cynaliadwyaeth y fenter
  • Effaith gweledol ac amlwg yn y gymuned dan sylw 
Llenwch y ffurflen enwebu hon os gwelwch yn dda, a’i chyflwyno erbyn Dydd Llun, 20fed Tachwedd. Cynhwyswch eich manylion cyswllt i gyd os gwelwch yn dda; efallai byddwn eisiau cysylltu â chi er mwyn darganfod mwy am yr un/y rhai rydych wedi eu henwebu.

Nid oes cyfyngiad ar rif eich enwebiadau, ond gofalwch anfon ffurflen ar wahân i bob enwebiad os gwelwch yn dda.

Question Title

* 1. Ar gyfer pa Wobr Calonnau dros y Celfyddydau 2018 hoffech chi enwebu?

Question Title

* 2. Enw’r Awdurdod Lleol a enwebir

T