🌊 Helpwch i Siapio Dyfodol y Rhyl – Dweud eich Dweud! 🌊 Mae newidiadau mawr ar y gweill yn y Rhyl, gyda £20 miliwn o gyllid adfywio i’w fuddsoddi dros y 10 mlynedd nesaf. Mae Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl wedi cael ei sefydlu er mwyn arwain y gwaith cyffrous, gan ddod â thrigolion lleol, busnesau, ymwelwyr, grwpiau gwirfoddol a lleisiau’r gymuned ynghyd er mwyn siapio gweledigaeth newydd feiddgar ar gyfer y dref.Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar: Adfywio canol y dref Cefnogi sgiliau, swyddi a hyfforddiant lleol Gwella iechyd, tai a mannau cyhoeddus Cefnogi partneriaethau a grwpiau cymunedol 📣 Rydym ni eisiau clywed gennych chi!Rydym ni eisiau gwybod: Pa heriau mae eich cymuned yn eu hwynebu Pa newidiadau fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf Sut allai’r cymorth hwn gefnogi dyfodol y Rhyl orau Bydd eich safbwyntiau chi’n helpu i benderfynu lle fydd y cyllid yn mynd – a sicrhau bod llais y gymuned yn ganolog i ddyfodol y Rhyl.📝 Cymerwch 5 munud i lenwi ein harolwgDatganiad PreifatrwyddDatblygwyd yr arolwg hwn gan Savills. Os byddwch yn dewis rhoi eich manylion personol, bydd Savills yn defnyddio'r rhain at ddibenion penodol cysylltu â chi ynglŷn â gwaith sy'n ymwneud â Chynllun Cymdogaethau'r Rhyl yn unig. Ar gyfer rhagor o wybodaeth am sut mae Savills yn ddefnyddio eich data personol, ewch i’n wefan: https://www.savills.co.uk/footer/privacy-policy.aspx Next