2. Cefndir a Chyd-destun
Mae’r arweiniad hwn yn cael ei ddatblygu yn unol â Nod 7 Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid Môr Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Amddiffyniadau parhaus ar gyfer stoc draenogiaid môr ifanc a rhai sy’n silio. Mae’r arweiniad a ddatblygwyd yn ceisio rhoi awgrymiadau syml, ymarferol i gefnogi addysg arfer gorau o fewn y gymuned genweirio môr hamdden. Bydd yr arweiniad ar gyfer genweirwyr y glannau, genweirwyr mewn cychod a genweirwyr cystadleuol, criwiau siarter, siopau offer a chlybiau – ac rydym eisiau cael eich barn fel bod y deunyddiau terfynol yn gweithio o ddifrif i enweirwyr sy’n targedu draenogiaid môr.