Annwyl riant,
Diolch am agor yr arolwg. Rydym wedi anfon yr arolwg atoch chi oherwydd eich bod chi’n cael e-fwletin Contact Cymru, neu oherwydd eich bod chi wedi cael cymorth gan Contact Cymru.
Mi fydd yr arolwg yn cymryd rhyw ddeg munud. Efallai y byddwn yn defnyddio sylwadau yr ydych chi wedi’u gwneud er mwyn tynnu sylw at ein gwasanaeth ac mewn adroddiadau i’n cyllidwyr – ond ni fyddwn ni yn eich enwi chi.
Mae’r data i gyd yn ddienw. Ni fyddwn ni’n gofyn am unrhyw fanylion personol oni bai eich bod yn dymuno rhoi eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr holiadur. Bydd cyfle ar y diwedd i ennill un o ddau daleb gwerth £50 yr un fel diolch am gymryd rhan.
Sylwch ein bod yn darllen eich holl ymatebion i'r arolwg, ond ni allwn warantu'r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mae'n ddrwg gennym na allwn ymateb yn unigol i sylwadau gennych yn yr arolwg. Os oes angen help, cyngor neu gymorth arnoch, cysylltwch â thîm Contact Cymru
cymru@contact.org.uk .