Arolwg Cymunedol Cynllun Lle Crug Hywel

Cyflwyniad

Mae Cyngor Tref Crug Hywel, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wrthi’n creu “Cynllun Lle” ar gyfer Crug Hywel. Mae Cynlluniau Lle yn ein galluogi i ragweld y problemau y gall cymunedau eu cael yn y dyfodol a datblygu strategaethau a nodau i’w hosgoi, yn ogystal â’n helpu ni i ddeall y cyfleoedd sydd gan leoedd a sut i fanteisio i’r eithaf arnynt. Uchelgais y Cyngor Tref yw bod y Cynllun Lle yn adlewyrchu dyheadau tymor byr Crug Hywel ac yn edrych 15 mlynedd i’r dyfodol i greu canllawiau manwl, uchelgeisiol a chynhwysfawr a fydd yn ein galluogi ni, fel cymuned, i fanteisio i’r eithaf ar ffyniant a llesiant ein tref yn y dyfodol.
Yn hydref 2023, bu trigolion a busnesau lleol a sefydliadau cymunedol yn rhannu eu profiadau a’u canfyddiad o Grug Hywel gyda ni. Dywedodd pobl wrth am yr heriau mae Crug Hywel yn eu hwynebu a chynnig eu syniadau ar gyfer y dref drwy nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Roeddent hefyd yn gallu cyfrannu eu syniadau trwy gwblhau arolwg cymunedol yn ogystal â thrwy ein e-bostio. Mae’r arolwg newydd hwn yn gofyn am eich sylwadau ar gynigion y Cynllun Lle. Os nad ydych chi wedi eu gweld eisoes gallwch fynd i lyfrgell y dref ar Silver Street ar 23 a 24 Chwefror neu edrych arnynt ar-lein ar https://www.crickhowellplaceplan.org/. Bydd eich ymateb yn helpu i benderfynu dogfen derfynol y Cynllun Lle cyn i’r Cyngor Tref ei fabwysiadu ym mis Ebrill 2024.
Mae gennych tan ddydd Sul, 10 Mawrth i gwblhau’r arolwg.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch yr arolwg, yna e-bostiwch chris@chrisjones.studio.
Diolch am eich cyfraniad tuag at ddylanwadu ar ddyfodol Crug Hywel.