De Caeau Newbridge

Mae Newbridge Fields yn cael ei ddosbarthu fel "Parc Mawr" o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n lle agored o bwys, sydd ar gael ar gyfer amrywiaeth o adloniant, gweithgareddau hamdden a chwaraeon i'r gymuned leol ac ar draws y fwrdeistref.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â’r grwpiau cymunedol i’r de o Newbridge Fields, gan gynnwys Clwb Rygbi Pêl-droed Athletau Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Gweilch Ogwr, AFC Tref Pen-y-bont ac AFC Broadlands – yn edrych ar ffyrdd o wella cyfleusterau a gwasanaethau yn rhan ddeheuol Newbridge Fields.

Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae Cwmni Ymgynghori Hiraeth Architecture and Planning Solutions yn cynnal astudiaeth, sy'n cael ei harwain gan dimau Mannau Gwyrdd, Cynaladwyedd, Lles a Throsglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mar arnom eisiau ymgysylltu â’r gymuned leol i ystyried eich barn a’ch syniadau chi ar gyfer yr ardal.

Gwahoddir chi i gwblhau’r holiadur byr hwn.

Mae’r arolwg hwn yn fyw tan 14th Rhagfyr 2026.
1.Pa mor aml y byddwch chi’n ymweld â Chaeau Newbridge?
2.Sut byddwch chi’n teithio i Gaeau Newbridge fel arfer?
3.Os byddwch chi’n gyrru, faint o amser fydd hi’n ei gymryd i chi deithio i’r parc?
4.Faint o amser fyddwch chi’n ei dreulio fel rheol ync Nghaeau Newbridge?
5.Ar eich ymweliad diwethaf, faint o bobl oedd yn eich grŵp chi?
6.Ar eich ymweliad diwethaf, faint o blant dan 16 oed oedd yn mynd gyda chi?
7.Fyddwch chi’n ymweld fel arfer ar ddyddiau’r wythnos, penwythnosau ynteu drwy gydol yr wythnos?
8.Ar ba amser o’r flwyddyn fyddwch chi’n ymweld fel arfer?
9.Pa weithgareddau fyddwch chi’n ymgymryd â hwy fel rheol yn y parc? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)
10.Os byddwch chi’n gyrru i gaeau Newbridge, ble byddwch chi’n parcio fel rheol?
11.Os byddwch chi’n gyrru i gaeau DE Newbridge, fyddwch chi’n gallu canfod lle i barcio yn y maes parcio?
12.Os byddwch chi’n gyrru i gaeau GOGLEDD Newbridge, fyddwch chi’n gallu canfod lle i barcio yn y maes parcio?
13.Os na fyddwch chi’n gallu canfod lle i barcio, beth fyddwch chi’n ei wneud?
14.Sut byddech chi’n asesu eich profiad yng Nghaeau Newbridge ar y cyfan?
15.Os oes gennych chi neu ymwelwyr eraill yn eich grŵp anabledd neu symudedd cyfyngedig, sut byddech chi’n asesu’r hygyrchedd o gwmpas y parc?
16.Pa mor bwysig ydy Caeau Newbridge i feithrin teimlad o gymuned a balchder lleol?