Croeso Cymru – Arolwg sgiliau a recriwtio 2026

Rydym yn casglu mewnwelediadau gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch i ddeall sgiliau cyfredol, anghenion hyfforddi a heriau'r gweithlu ar draws y sector yn well. Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio cymorth a datblygu polisi yn y dyfodol.

Dylai gymryd tua 5 munud i gwblhau'r arolwg. Mae'r holl ymatebion yn gyfrinachol a dim ond mewn adroddiadau cyfunol y byddant yn cael eu defnyddio.

Os oes gennych gwestiwn neu fater yr hoffech ei godi, cysylltwch â natalie.hughes@llyw.cymru
YNGLŶN Â'CH BUSNES:
1.Maint y Busnes: Faint o bobl ydych chi'n eu cyflogi ar hyn o bryd? (Cofiwch gynnwys staff llawn-amser, rhan-amser a thymhorol)
2.Math o fusnes: Pa ran o'r sector lletygarwch a thwristiaeth sy'n disgrifio eich busnes orau?
Y DIRWEDD SGILIAU A BUDDSODDI:
3.Yr amgylchedd presennol: Sut fyddech chi'n disgrifio'r amgylchedd presennol ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau staff a hyfforddiant?
4.Dulliau hyfforddi presennol: Pa un o'r mathau canlynol o hyfforddiant ydych chi/eich staff yn eu defnyddio ar hyn o bryd? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)
BYLCHAU RECRIWTIO A SGILIAU:
5.Rolau yr effeithir arnynt fwyaf: Pa rolau yr effeithir arnynt fwyaf gan fylchau sgiliau?
6.Heriau recriwtio: Beth yw'r prif heriau rydych chi'n eu hwynebu wrth recriwtio?
ANGHENION SGILIAU AC ARBENIGEDD:
7.Sgiliau a heriau'r gweithlu: Beth yw'r tair prif her sgiliau y mae eich busnes yn eu hwynebu ar hyn o bryd? (Dewiswch hyd at dri)
8.Blaenoriaethau sgiliau digidol: Pa sgiliau digidol sy'n flaenoriaethau i'ch busnes?
FFACTORAU BUDDSODDI A CHYNLLUNIO BUSNES:
9.Ffactorau sy'n dylanwadu ar fuddsoddi mewn sgiliau: Pa ffactorau sy'n dylanwadu fwyaf ar eich gallu i fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol)
10.Effaith ar hyder cynllunio: I ba raddau mae bylchau sgiliau neu anghenion hyfforddi yn effeithio ar eich hyder wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol?
11.Ym mha ffyrdd mae sgiliau ac anghenion hyfforddi yn dylanwadu ar eich eich gallu i gynllunio busnes yn y tymor byr neu'r tymor hir?
BLAENORIAETHAU AC ANGHENION CYMORTH YN Y DYFODOL:
12.Lefel Blaenoriaeth: Faint o flaenoriaeth yw datblygu sgiliau i'ch busnes dros y 12–24 mis nesaf?
13.Cymorth sydd ei angen: Beth fyddai'n helpu eich busnes fwyaf i fuddsoddi mwy mewn sgiliau a hyfforddiant?
Diolch i chi am roi o’ch amser i gwblhau’r arolwg hwn. Mae eich adborth yn hynod werthfawr a bydd yn helpu i lunio sgiliau, hyfforddiant a chymorth gweithlu yn y dyfodol ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.

I gyflwyno’ch atebion, cliciwch “Anfon”.