Datgloi Pŵer Digwyddiadau Busnes: Cyfle drwy gydol y flwyddyn.

Gweminar diwydiant - 4 Rhagfyr 2025

Er mwyn helpu'r tîm Digwyddiadau Busnes i ddeall eich busnes yn well - ac a ydych eisoes yn cymryd rhan mewn digwyddiadau busnes ai peidio - cymerwch ychydig funudau i ateb y cwestiynau canlynol. Atebwch erbyn 5pm, 27 Chwefror 2026.

Mae pob ymateb yn ddienw.
1.Ydych chi'n hyrwyddo'ch busnes at ddibenion digwyddiadau busnes?
2.Sut ydych chi'n hyrwyddo / marchnata eich busnes at ddibenion digwyddiadau busnes?
3.Pa elfen o ddigwyddiadau busnes sydd fwyaf addas ac yn berthnasol i'ch busnes?
4.Ydych chi'n cynnal cronfa ddata cwsmeriaid rydych chi'n ei defnyddio ar gyfer e-byst marchnata i hyrwyddo'ch busnes?
Yn seiliedig ar brosiect Marchnata Leopold a grybwyllwyd yn y weminar, mae'r cwestiynau olaf yn edrych ar weithio mewn partneriaeth gyda'r tîm Digwyddiadau Busnes. Rhannwch eich meddyliau a'ch syniadau ar sut y gallwch chi / darparwyr y diwydiant twristiaeth, yn enwedig y rhai mewn rhanbarthau a chyrchfannau llai, gydweithio'n effeithiol gyda’ch gilydd fel y gallwn ddarparu'r platfform gorau i'ch hyrwyddo i gynllunwyr digwyddiadau y tu allan i Gymru.
5.O fewn eich ardal cyrchfan, sut gallwch wneud hi'n haws i brynwyr a chynllunwyr weld y profiad cyfan sydd ar gynnig yn eich ardal - nid yn unig ble y byddant yn aros neu'n cwrdd, ond y gweithgareddau, diwylliant, profiadau cefnogol, bwyd a diod ac ymdeimlad o le sy'n gwneud digwyddiad yn brofiad llawn?
6.Sut gallwch chi annog cydweithredu ehangach o fewn eich cyrchfan, i roi sicrwydd i'r prynwr a'r cynllunwyr digwyddiadau bod gennym yr arbenigedd i ymateb i ymholiadau a chyflawni Digwyddiadau yn lleol?
7.Sut gallwn ddatblygu carfan o bobl allweddol a allai gymryd ymholiad a gweithio gyda chydweithwyr yn y diwydiant i'w droi'n gynnig ehangach?
8.Ychwanegwch unrhyw sylwadau eraill yma:
Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn.

Cliciwch ar "Gorffen" i gyflwyno'ch atebion.