Impact on Members Survey - Proposed Disability Benefit Cuts / Arolwg Effaith ar Aelodau – Torri Budd-daliadau Anabledd Arfaethedig

Disability Wales is gathering feedback from our DPO and individual members to ensure our consultation response reflects your voices in the impact these proposed benefit cuts will have. We know this is a deeply worrying time. We want to hear your voice! How these cuts will affect you and what changes you think are needed. Your feedback will allow us to lobby against these cuts.

A plain text version of this survey is available by emailing natalie.jarvis@disabilitywales.org. If you would like support completing the survey or have any other questions please get in touch.

Mae Anabledd Cymru yn casglu adborth gan ein haelodau unigol ac Awdurdodau Pobl Anabl (DPO) er mwyn sicrhau bod ein hymateb i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu eich lleisiau o ran effaith y toriadau budd-daliadau arfaethedig hyn. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod pryderus iawn. Rydym eisiau clywed eich llais! Sut y bydd y toriadau hyn yn effeithio arnoch chi, a pha newidiadau yr ydych chi’n credu sydd eu hangen. Bydd eich adborth yn ein galluogi i lobïo yn erbyn y toriadau hyn.
Mae fersiwn testun plaen o’r arolwg hwn ar gael drwy e-bostio natalie.jarvis@disabilitywales.org. Os hoffech chi gymorth i gwblhau’r arolwg neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni.
1.Which of the following best describes you?
Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio orau?
2.Which benefits do you currently receive?
Pa fudd-daliadau ydych chi’n eu derbyn ar hyn o bryd?
3.What do these benefits mean to you?
(How do they help you in your daily life? How would losing them or having them reduced affect you?)
Beth mae’r budd-daliadau hyn yn ei olygu i chi?
(Sut maen nhw’n eich helpu chi yn eich bywyd pob dydd? Sut fyddai eu colli neu eu lleihau yn effeithio arnoch chi?)
4.How do you feel about the proposed cuts?
(What emotions are you experiencing? Do you feel anxious, angry, afraid? What are your biggest fears?)
Sut ydych chi’n teimlo am y toriadau arfaethedig?
(Pa emosiynau rydych chi’n eu profi? Ydych chi’n teimlo’n bryderus, yn grac, yn ofnus? Beth yw eich pryderon mwyaf?)
5.How would these cuts affect your health?
(Would they impact your ability to manage pain, access treatment, afford medication, or maintain your mental health?)
Sut fyddai’r toriadau hyn yn effeithio ar eich iechyd?
(A fydden nhw’n effeithio ar eich gallu i reoli poen, cael mynediad at driniaeth, fforddio meddyginiaeth, neu gynnal eich iechyd meddwl?)
6.How would these cuts affect your ability to pay for essential bills (rent, food, heating, transport, care costs)? What are you most worried about? Would you have to go without essentials?
Sut fyddai’r toriadau hyn yn effeithio ar eich gallu i dalu biliau hanfodol (rhent, bwyd, gwresogi, trafnidiaeth, costau gofal)?
Beth yw eich pryder mwyaf? A fyddai’n rhaid i chi fynd heb bethau hanfodol?
7.How would these cuts affect your ability to live independently?
(Would you struggle with daily activities, mobility, personal care, or getting support? Would you have to rely more on family, food banks, or charities?)
Sut fyddai’r toriadau hyn yn effeithio ar eich gallu i fyw’n annibynnol?
(A fyddech chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi â gweithgareddau dyddiol, symud o gwmpas, gofal personol, neu gael cymorth? A fyddech chi’n gorfod dibynnu mwy ar deulu, banciau bwyd, neu elusennau?)
8.How would these cuts affect your ability to work or look for work?
(Would they push you into work before you are ready? Would they make it harder for you to stay in work? Would they remove vital support you need?)
Sut fyddai’r toriadau hyn yn effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith?
(A fydden nhw’n eich gorfodi i fynd i waith cyn i chi fod yn barod? A fydden nhw’n ei gwneud hi’n anoddach i chi aros mewn gwaith? A fydden nhw’n tynnu cefnogaeth hanfodol rydych chi ei hangen?)
9.What alternative changes would you like to see in the benefits system?
(How could things be improved instead of cutting support?)
Sut fyddai’r toriadau hyn yn effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith?
(A fydden nhw’n eich gorfodi i fynd i waith cyn i chi fod yn barod? A fydden nhw’n ei gwneud hi’n anoddach i chi aros mewn gwaith? A fydden nhw’n tynnu cefnogaeth hanfodol rydych chi ei hangen?)
10.Would you be happy for us to use your comments (anonymously) in our advocacy work?
Fyddech chi’n hapus i ni ddefnyddio eich sylwadau (yn ddienw) yn ein gwaith eiriolaeth?
11.Would you like to share your story further to help campaign against these cuts?
Hoffech chi rannu eich stori ymhellach i helpu ymgyrchu yn erbyn y toriadau hyn?
12.If you are happy to be contacted further regarding this consultation then please provide your email
Os ydych chi’n hapus i ni gysylltu â chi ymhellach ynghylch yr ymgynghoriad hwn, rhowch eich cyfeiriad e-bost os gwelwch yn dda.
Thank you for sharing your thoughts. We are fighting for you. Your responses will help shape our official consultation response and wider campaign efforts.
Diolch am rannu eich meddyliau. Rydyn ni’n ymladd drosoch chi. Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio ein hymateb swyddogol i’r ymgynghoriad ac ymdrechion ehangach ein hymgyrch.
13.Would you be happy to speak to the media regarding this green paper?
Fyddech chi’n hapus siarad â’r cyfryngau ynghylch y Papur Gwyrdd hwn?