Rydym yn y broses o ystyried opsiynau o ran gwneud gwelliannau i menter
gymunedol a siop ail-lenwi amgylcheddol Y Tŷ Gwyrdd yn Ninbych, er mwyn medru darparu cyfleusterau gwell a gofod addas i gynnal ystod o weithgareddau, gwasanaethau a phrosiectau newydd.

Rydym wedi ein lleoli ar Lôn Gefn yn yr adeilad oedd yn arfer bod yn Threads ac mae gennym gyfle i brynu’r adeilad at ddefnydd cymunedol hirdymor.

Mae arnom angen eich cymorth CHI gyda cam nesaf datblygu’r prosiect a’ch barn am beth ddylai’r blaenoriaethau fod wrth i ni symud ymlaen gyda chynlluniau. Bydd eich sylwadau’n gymorth i gefnogi ein ceisiadau am gyllid i’n cynorthwyo i brynu Threads (Lôn Gefn, Dinbych) ar gyfer defnydd cymunedol ac i wireddu unrhyw waith addasu a gwelliannau i’r adeilad.

Rydym angen casglu cymaint o ymatebion â phosib, felly os gwelwch yn dda rhannwch yr holiadur gyda ffrindiau a theulu. Diolch am eich cymorth.

Question Title

* 1. Pa ddefnydd ydych chi’n ei wneud o Y Tŷ Gwyrdd ar hyn o bryd? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)

Question Title

* 2. Pa mor aml ydych chi’n gwneud defnydd o’r adnoddau canlynol yn Y Tŷ Gwyrdd?

Question Title

* 3. Os ydych yn gwneud defydd o Y Tŷ Gwyrdd ar hyn o bryd, oes cyfyngiau
hefo’r adeilad i’ch defnydd chi.

Question Title

* 4. Oes yna welliannau yr hoffech eu gweld yn cael eu gwneud i’r adeilad?

Question Title

* 5. Mae menter gymunedol Y Tŷ Gwyrdd ar hyn o bryd yn talu rhent am ddefnydd o’r adeilad. Mae gennym gyfle i brynu’r adeilad at ddefnydd cymunedol hirdymor. Ydych chi'n meddwl y dylai'r eiddo barhau i gael ei ddefnyddio fel adeilad cymunedol?

Question Title

* 6. Pe bai’r adeilad yn cael ei ddatblygu’n breifat, sut fyddai colli Y Tŷ Gwyrdd yn effeithio arnoch chi?

Question Title

* 7. Beth sydd ar goll yn y gymuned ar hyn o bryd y gallai Y Tŷ Gwyrdd ei ddarparu?

Question Title

* 8. A oes unrhyw rwystrau sy'n eich atal chi rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd cymunedol?

Question Title

* 9. Mae Y Tŷ Gwyrdd yn dosbarthu cyfranddaliadau cymunedol o bryd i'w gilydd i gynorthwyo gyda sicrhau cyllid i ddatblygu ein gwaith. A fyddai gennych ddiddordeb mewn prynu cyfranddaliad am £30 a fyddai’n rhoi gostyngiadau aelodaeth, gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig i gyfrandalwyr ac i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) a hysbysiad cynnar am ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Question Title

* 10. A ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â phrynu, adnewyddu neu redeg adeilad cymunedol yn y gorffennol?

Question Title

* 11. A fyddech chi â diddordeb helpu’r prosiect a chynorthwyo gyda - (ticiwch bob un sy'n berthnasol)

Question Title

* 12. Unrhyw sylwadau pellach?

Question Title

* 13. Dywedwch wrthym hefyd pa un sy'n disgrifio orau eich sefyllfa gartref? (dewiswch yr opsiwn agosaf)

Question Title

* 14. Nodwch eich defnydd o'r iaith yn y cartref (ticiwch bob un sy'n berthnasol)

Question Title

* 15. Beth yw eich cod post?

T