Y Pair: Llyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên Cymraeg sy’n ymdrin â llesiant, i ysgogi ac i gefnogi gweithdai a phrosiectau creadigol

Y Pair

Mae Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i greu llyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên Cymraeg sy’n cefnogi llesiant. Byddwn yn creu cronfa ddigidol o’r dyfyniadau byr a fydd yn adnodd ar gyfer arweinwyr gweithdai llesiant creadigol yn y gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd yn hyrwyddo a dathlu gwaith beirdd a llenorion sy’n ymdrin â llesiant fel thema.
Bydd modd:
  1. Chwilio am ddyfyniad ar thema e.e. galar, y tymhorau neu byd natur
  2. Dod o hyd i gofnod gyda dyfyniad byr yn flas o'r darn llên
  3. Mynd i'r llyfrgell, y siop lyfrau neu at yr adnodd ar-lein i ddod o hyd i'r darn o lenyddiaeth cyflawn er mwyn ei ddefnyddio mewn gweithdy. **Rhaid sicrhau fod rheolau hawlfraint yn cael eu parchu.
Rydym yn ddiolchgar am eich cymorth wrth greu’r gronfa hon. I gyfrannu dyfyniad(au), llenwch y ffurflen syml isod.
1.Enw:
2.Cyfeiriad ebost:
3.Dyfyniad (os hoffech deipio llinell neu ddwy):
4.Dyfyniad (os hoffech lwytho llun/sgan):
No file chosen
5.Enw awdur/bardd y darn:
6.Math o lên:
7.Cyhoeddwyd mewn:
8.Rhif tudalen neu fanylion pellach defnyddiol:
9.Manylion cyhoeddi, gan gynnwys cyhoeddwr, dyddiad cyhoeddi ac ISBN (os yn bosib):