
Ffurflen Gais: Ailddyfeisio'r Prif Gymeriad
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod Tachwedd 2024 – gwanwyn 2025. Bydd y cwrs yn cael ei redeg fel cyfres o bump gweithdy digidol a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O’Reilly.
Cyn i chi gwblhau'r ffurflen gais hon, dylech ddarllen drwy'r holl wybodaeth am y cwrs ar ein gwefan, gan gynnwys y Cwestiynau Cyffredin a'r Meini Prawf Cymhwystra.
I holi am wneud cais drwy fideo, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.
Os oes angen ffurflen gais dyslecsia-gyfeillgar neu brint bras arnoch, cyfeiriwch at y dogfennau y gellir eu lawrlwytho ar ein gwefan.
Noder na allwn anfon copi o'ch cais atoch ar ôl ei gyflwyno, felly rydym yn argymell eich bod yn cadw copi o'ch atebion mewn dogfen Word.
Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth gwblhau’r ffurflen ar-lein, neu os oes gennych anabledd neu salwch a allai eich atal rhag gwneud cais, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru post@llenyddiaethcymru.org i siarad gydag aelod o staff.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 pm, dydd Iau 29 Awst 2024.